Bioscience for a Better Tomorrow

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad: Biowyddorau ar Gyfer Gwell Yfory

Iain Donnison, Edward Hodgson

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

22 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Arwynebedd cyfyngedig o dir sydd gan y byd i greu bwyd, tanwydd a dillad i boblogaeth sy’n tyfu, ac ar yr un pryd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth.

Ar sail dros gan mlynedd o hanes o weithio i wella amaethyddiaeth tir glas, nod Ymchwil IBERS yw gwneud ffermio yn fwy cynhyrchiol, mwy buddiol i’r gymdeithas a mwy gwarchodol i’n hamgylchedd.

Yn yr Athrofa, rydyn ni’n cynnal ymchwil sylfaenol a chymhwysol arloesol sy’n sail ar gyfer bridio mathau newydd a gwell o gnydau, gan wneud amaethyddiaeth yn fwy cynaliadwy, a galluogi’r diwydiant i ddatblygu prosesau a chynhyrchion newydd.

Yma yn y Canolbarth, mae lleoliad unigryw IBERS a’i ecosystem o alluoedd yn caniatau i’n myfyrwyr a’n hymchwilwyr gyflawni gwaith ymchwil ymarferol a hyfforddiant mewn geneteg planhigion, amaethyddiaeth, ecoleg, biotechnoleg a gwyddor amgylcheddol. Mae hyn yn fodd inni astudio’n hamgylchedd, ein cynefinoedd a’n systemau bwyd o’r mynydd i’r mor ac o’r fferm i’r fforc.

Mae ymchwil graidd IBERS yn canolbwyntio ar wneud cnydau’n fwy gwydn yn erbyn newid hinsawdd, gwella ansawdd cnydau, diogelu amrywiaeth genetig, dal carbon, a deall y rhyngweithio ehangach rhwng amaethyddiaeth a’r amgylchedd.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant i fynd i’r afael a heriau byd-eang, ymgysylltu a’r rhai sy’n ffurfio polisiau a’r gymuned amaethyddol ehangach er mwyn deall yr hanfodion yn well, ac yna cydweithio i ddod o hyd i atebion a chymhwyso’n biowyddoniaeth i helpu i adeiladu gwell yfory.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadBiowyddorau ar Gyfer Gwell Yfory
Iaith wreiddiolSaesneg
CyhoeddwrPrifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Nifer y tudalennau19
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 15 Meh 2024

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Biowyddorau ar Gyfer Gwell Yfory'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn