Brawdgarwch Cenedlgarol: Difyrrwch Llenyddol Cymdeithasau Cymry Llundeinig y Ddeunawfed Ganrif

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

39 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Trafodaeth ar gymdeithasedd gwrywaidd a llenyddol Cymry Llundain y ddeunawfed ganrif, a'r 1790au yn benodol. Trafodir y ddeinameg rhwng eu gwladgarwch brawdol (S. 'fratriotism'), gofod cymdeithasaidd a gwrywaidd Cymdeithas y Gwyneddigion (ac is-gymdeithasau perthynol) a'r modd yr oedd cymdeithasedd a gwladgarwch brawdol yn trosgynu gwahaniaethau crefyddol a gwleidyddol yr aelodau. Yn ogystal, mae'r erthygl yn cyflwyno ac yn dehongli testunau a ddarganfuwyd trwy ymchwil archifol, a rhoddir sylw dyladwy i lawysgrifau Edward Charles (1757-1828) am y tro cyntaf. Mae'r erthygl yn cynnig geirfa gysyniadol Cymraeg ar gyfer y cyd-destun cymdeithasaidd a homogymdeithasaidd, a hefyd yn cynnwys dyfyniadau o'r testunau gwreiddiol a olygdwyd gennyf hefyd. Mae'r erthygl yn deillio o ddarlith flynyddol y Cymmrodorion a draddodwyd Mehefin 2015. 13,000 o eiriau.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadPatriotic Fratriotism: Literary Entertainment of the London Welsh Societies in the Eighteenth Century
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)64-94
Nifer y tudalennau31
CyfnodolynTrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion | Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion
Cyfrol25
StatwsCyhoeddwyd - 01 Gorff 2020

Allweddeiriau

  • hunaniaeth
  • Cymreictod
  • Prydeindod
  • diwylliant cymdeithasaidd
  • homogymdeithasedd
  • rhywedd
  • cymdeithasgarwch

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Brawdgarwch Cenedlgarol: Difyrrwch Llenyddol Cymdeithasau Cymry Llundeinig y Ddeunawfed Ganrif'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn