Crynodeb
Mae Perfformio’r Genedl yn gyfrol sy’n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i’r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o’i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o’r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o’r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae’r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau’r Orsedd, y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a’r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu’r amryw themâu yn ei waith a’u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o’r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Welsh Performing Arts: Performing the Nation: On the Trail of Hywel Teifi Edwards |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Teitl | Perfformio'r Genedl |
Is-deitl | Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards |
Golygyddion | Anwen Jones |
Man cyhoeddi | Caerdydd |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press |
Tudalennau | 164 |
Nifer y tudalennau | 193 |
ISBN (Electronig) | 9781786830364, 9781786830371, 9781786830357 |
ISBN (Argraffiad) | 9781786830340 |
Statws | Cyhoeddwyd - 24 Ebr 2017 |
Allweddeiriau
- Cardiff NAtional PAgeant of Wales,
- Hywel Teifi Edwards
- Historiography
- Excluded minorities