Cyfieithu Cyfrifol: Salvador Esprui, Primera Història d’Esther ac Esther, Saunders Lewis

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

169 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Cyfieithu Cyfrifol: Esther, Saunders Lewis, a Phillip Polack
Yn 2016, cyhoeddwyd rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn, Translation Studies yn ffocysu ar hanes, theori a methodolegau cyfieithu yng Nghymru. Un o brif amcanion y rhifyn yw cwestiynu'r canfyddiad o gyfieithu fel methodoleg cynrychioladol sy'n trosglwyddo gwybodaeth rhwng cyfryngau a rhwng cynulleidfaoedd. Yn hytrach, cyflwynir gweledigaeth o gyfieithu fel adnodd creadigol, trawsddisgyblaethol a allai sbarduno ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r profiad dynol. Yn eu cyflwyniad i'r rhifyn, gresyna'r golygyddion ddau beth. Yn gyntaf, cyfyngderau'r drafodaeth o hanes, rôl a dibenion cyfieithu yng Nghymru, yn ail, prinder ymchwil ar gyfieithu o berspectif diwylliannol, hanesyddol neu gysyniadol. Mewn ymateb i'r cyfryw wendidiau, argymellir proses o glosio cysyniadol rhwng dau faes, annibynnol; astudiaethau diwylliannol ac astudiaethau cyfieithu:
If it could be argued that Welsh cultural studies is yet to effect its “translational turn” (Bachmann-Medick 2009), then a similar remark could also be made of the field of translation studies itself, which, in spite of its long-standing focus on questions concerning minority identities … has rarely animated work on the Welsh context.1
The research questions … that follow are presented as a handful of illustrative examples of the productive interplay – in both directions – between translation studies and Welsh studies (134).
Mae'r erthygl hon yn ymgais i ddatblygu'r llond dwrn hwnnw o enghreifftiau darluniadol er mwyn dwyshau'r cyfnewid rhwng astudiaethau cyfieithu, ar y naill law, ac astudiaethau diwylliannol Cymraeg a Chymreig, ar y llaw arall. Fy amcan yw darganfod a oes modd i ddisgwrs a wreiddir ym maes astudiaethau cyfieithu ddwyn ffrwyth annisgwyl trwy ddatgelu arwyddocâd testun unigol yng nghyd-destun cyfanrwydd gweledigaeth corpus llenyddol, penodol. Yr awdur o dan sylw yw Saunders Lewis a'r ddrama Esther fydd ffocws yr ymchwiliad.
1Carballeira, H. M, Kaufman, J a Price, A, ' Introduction : Translation in Wales : History, theory and approaches', Translation Studies, Cyf 9, Rhif 2, (2016), 126.

Cyfieithiad o deitl y cyfraniadResponsible translation: Salvador Esprui, Primera Història d’Esther and Esther, Saunders Lewis
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)147- 163
Nifer y tudalennau17
CyfnodolynLlên Cymru
Cyfrol41
Rhif cyhoeddi1
Dyddiad ar-lein cynnar16 Meh 2018
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 01 Hyd 2018

Allweddeiriau

  • Cyfieithu cyfirfol, Derrida, translational turn, Astudiaethaudiwylliannol cymreig, Saunders Lewis

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Cyfieithu Cyfrifol: Salvador Esprui, Primera Història d’Esther ac Esther, Saunders Lewis'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn