Crynodeb
Rhwng 1945 a 1948 gorfodwyd i hyd at ddeuddeg miliwn o Almaenwyr a oedd yn trigo yn Nwyrain Ewrop fudo yn dilyn newidiadau a wnaed i ffiniau’r wlad. Daeth nifer o’r Almaenwyr hyn i fyw yng Ngweriniaeth Ffederal yr Almaen, lle y’u gelwid yn ‘allwladwyr’. I goffáu eu mamwlad golledig, agorwyd amgueddfeydd bychain yn cynrychioli’r ardaloedd yr allwladwyd hwy ohonynt. Mae’r erthygl hon yn trafod y portread o gof a hanes yn amgueddfa tref Wehlau a oedd yn Nwyrain Prwsia. Drwy ymchwilio themâu fel cynrychioliad y famwlad, yr Ail Ryfel Byd ac integreiddiad yr Almaenwyr hyn i Orllewin yr Almaen, bydd yr erthygl hon yn trafod y tebygrwydd, y gwahaniaethau a’r tensiynau rhwng diwylliant cof yr allwladwyr a diwylliant cof yr Almaen yn ehangach.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | ‘Memory Contests’, narrative and history in Wehlau’s Heimatmuseum: Negotiating the complicated history and memory of Germany’s twentieth century |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Tudalennau (o-i) | 45-69 |
Nifer y tudalennau | 25 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Cyfrol | 25 |
Statws | Cyhoeddwyd - 31 Hyd 2017 |
Ôl bys
Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil '‘Cystadlaethau cof’, naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymhleth yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.Proffiliau
-
Arddun Arwyn
- Adran Hanes a Hanes Cymru - Lecturer in Modern History (Welsh Medium)
Unigolyn: Dysgu ac Ymchwil