Crynodeb
Mae busnesau fferm yn wynebu heriau cynyddol o ran sefydlogrwydd economaidd a dulliau cynhyrchu traddodiadol, felly mae’r erthygl hon yn ystyried rôl cynhyrchu ynni adnewyddadwy i gynnal busnesau o’r fath, wrth ystyried y cyfoeth o adnoddau naturiol yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn defnyddio dulliau cymysg er mwyn cynnal ymchwiliad manwl i rôl cynhyrchu ynni adnewyddadwy wrth gefnogi busnesau amaeth yng Nghymru. Cyfraniad damcaniaethol yr erthygl hon yw segmentiad o ffermwyr trwy ddefnyddio dadansoddiad clwstwr sy’n gwahaniaethu rhwng agweddau gwahanol at incwm y tu allan i’r fferm a mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy. Gall yr ymchwil hefyd gynghori Llywodraeth Cymru ar bolisïau i hwyluso’r cynnydd mewn ynni adnewyddadwy.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Renewable energy: An opportunity for farmers to diversify in a challenging business environment? |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Tudalennau (o-i) | 112-133 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Cyfrol | 31 |
Statws | Cyhoeddwyd - 01 Hyd 2020 |