Crynodeb
Mae busnesau fferm yn wynebu heriau cynyddol o ran sefydlogrwydd economaidd a dulliau cynhyrchu traddodiadol, felly mae’r erthygl hon yn ystyried rôl cynhyrchu ynni adnewyddadwy i gynnal busnesau o’r fath, wrth ystyried y cyfoeth o adnoddau naturiol yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn defnyddio dulliau cymysg er mwyn cynnal ymchwiliad manwl i rôl cynhyrchu ynni adnewyddadwy wrth gefnogi busnesau amaeth yng Nghymru. Cyfraniad damcaniaethol yr erthygl hon yw segmentiad o ffermwyr trwy ddefnyddio dadansoddiad clwstwr sy’n gwahaniaethu rhwng agweddau gwahanol at incwm y tu allan i’r fferm a mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy. Gall yr ymchwil hefyd gynghori Llywodraeth Cymru ar bolisïau i hwyluso’r cynnydd mewn ynni adnewyddadwy.
| Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Renewable energy: An opportunity for farmers to diversify in a challenging business environment? |
|---|---|
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Tudalennau (o-i) | 112-133 |
| Cyfnodolyn | Gwerddon |
| Cyfrol | 31 |
| Statws | Cyhoeddwyd - 01 Hyd 2020 |
NDC y CU
Mae’r allbwn hwn yn cyfrannu at y Nod(au) Datblygu Cynaliadwy canlynol
-
NDC 7 Ynni Fforddiadwy a Glân
Ôl bys
Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Egni adnewyddadwy: Cyfle i ffermwyr arallgyfeirio mewn amgylchedd busnes heriol?'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.Dyfynnu hyn
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver