Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Evaluation, Impact and Outcomes in working with children and young people in regional and minority language revitalisation efforts

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad: Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau ym maes gweithio gyda phlant ac ieuenctid wrth hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol
  • University of Edinburgh

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad

3 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Mae’r ddogfen hon yn adrodd ar brif drafodaethau gweithdy a drefnwyd gan Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), prosiect Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil a gyllidwyd gan ESRC ar Addysg, Iaith a Hunaniaeth yng Nghymru a’r Alban.1 Cynhaliwyd y gweithdy yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd a rydym yn ddiolchgar i’r Urdd am ddarparu’r lleoliad.

Nod y gweithdy oedd dwyn ynghyd ymarferwyr yn ymwneud a gweithgareddau hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol gyda phlant a phobl ifanc, yn benodol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. O ran cyd-destun, mae gwaith ieuenctid a gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn wynebu heriau ynghylch sut i werthuso a dangos effaith a chanlyniadau eu gwaith. Mae gwaith mudiadau a chyrff sy’n ceisio hyrwyddo’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol ymysg plant a phobl ifanc yn wynebu materion ychwanegol a heriau posibl o ran gwerthuso ac asesu effaith ieithyddol eu gweithgarwch. Yn ogystal a dangos canlyniadau yng nghyswllt gwaith ieuenctid yn gyffredinol, rhaid iddynt hefyd geisio dangos effaith eu gwaith ar sgiliau iaith a defnydd iaith pobl ifanc; rhywbeth sy’n anodd i’w ddangos.

O ganlyniad, ceisiodd y gweithdy ddarparu man ar gyfer trafod profiadau, i gyfrannu at adeiladu capasiti, i rannu a chreu arfer da ac i adnabod camau nesaf posibl o ran gwerthuso, effaith a chanlyniadau yn y gwaith o hyrwyddo ieithoedd.

Trefnodd y prosiect weithdy blaenorol ynghylch gwerthuso, effaith a chanlyniadau yng nghyd-destun gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae’r adroddiad briffio’n darparu cyd-destun ar gyfer yr ail weithdy hwn (gweler y ddolen isod).

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r prif bwyntiau a gododd o’r cyflwyniadau a thrafodaethau grwpiau yn ystod y gweithdy. Mae’r cyflwyniadau ar gael ar wefan y prosiect (gweler y ddolen isod).
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadGwerthuso, Effaith a Chanlyniadau ym maes gweithio gyda phlant ac ieuenctid wrth hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol
Iaith wreiddiolSaesneg
CyhoeddwrPrifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Nifer y tudalennau30
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 31 Mai 2019

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau ym maes gweithio gyda phlant ac ieuenctid wrth hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • WISERD Civil Society: Interpol (led by project 11438)

    Jones, I. R. (Arweinydd y Prosiect), Murphy, P. D. (Arweinydd y Prosiect), O'Hanlon, F. (Arweinydd y Prosiect), Royles, E. (Arweinydd y Prosiect), Anderson, J. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Blackaby, D. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Bryson, A. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Chaney, P. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Cole, A. M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Davies, R. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Davis, H. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Drinkwater, S. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Feilzer, M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Green, A. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Heley, J. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Higgs, G. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Hyde, M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Johns, N. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Jones, R. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Jones, R. D. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Jones, M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Jones, M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Langford, M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Mann, R. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), McVie, S. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Milbourne, P. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Moles, K. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Orford, S. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Paterson, L. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Power, S. A. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Ress, G. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Roberts, G. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Robinson, C. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Taylor, C. M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Thompson, A. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Wincott, D. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Woods, M. (Cyd‑arweinydd Ymchwil), Jones, L. (Cymrawd), Stafford , I. (Cymrawd) & Staneva, A. (Cymrawd)

    Economic and Social Research Council

    01 Hyd 201430 Medi 2019

    Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol

Dyfynnu hyn