Crynodeb
Comisiynwyd Ffair Elen gan yr artist a’r cynhyrchydd Lleucu Meinir ar gyfer Plethu, ei phrosiect hir-dymor ym mro Llandysul, Ceredigion, lle mae’n byw. Mae’r prosiect yn gweithio gyda thrwch cymdeithas i gynnal cyfresi o weithgareddau amrywiol. Perfformiad a barodd amser penodol mewn lle go iawn oedd y ffair, gynhaliwyd ar Ddydd Owain Glyndŵr ar Fedi’r 16eg yn Llandysul – man sydd yn hanfodol i hanes yr arwr gan mai yma y ganwyd a magwyd ei fam, Elen.
Mae Ffair Elen yn esiampl o’m gwaith gyda chwmnïau o faint sylweddol na sydd yn broffesiynol ac mae’r darn yn un o chwech ar safleoedd arbennig yr wyf wedi eu cynhyrchu ers 2016.
Ffair oedd Ffair Elen wedi ei chynnal ar Barc Coffa Llandysul mewn chwe pabell wedi eu rhannu’n stondinau. Mynegwyd rhialtwch ffair wrth i weithgareddau’r pebyll weithiau fynd yn eu blaen ar yr un pryd ond fe luniwyd cyfanwaith anniben yr olwg gan gynllun cadarn. Rheolwyd y ffair gan ddeuddeg Elen, merched mewn gwisgoedd aur a du. Crwydrai’r gynulleidfa o un babell i’r llall: er enghraifft, buont yn gwylio dramáu gan gwmni ieuenctid ac oedolion ifanc; sesiyniau cwestiwn ac ateb gyda meddyg go iawn (am glwyfau brwydr) a chydag athro (professor!) hanes yr oesedd canol; bu yna wreslo Swmo rhwng Glyndŵr a Harri’r 4ydd; cafai’r gynulleidfa, o bob rhywedd, fynd i stiwdio dynnu lluniau i wisgo fel Elen.
Roedd gan y ffair gast o tua chwedeg a thîm technegol ifanc o tua ugain. Bu dau gerddor enwog – y beat boxer Mr Phormula, a’r gantores a’r gyfansoddwraig Lleuwen Steffan – yn perfformio ynddi ac yn arwain gweithdai cyfansoddi caneuon gyda’r grŵp ieuenctid. Cynhaliwyd gwylnos yn Eglwys Sant Tysul y noson cyn y ffair pan berfformiais ddarn spoken word, a’r gerddoriaeth gan y ddau uchod a ”chapten” clychau’r eglwys, Sandie Stefanetti. Fore’r ffair, gwybiodd un Elen ifanc lawr yr afon Teifi mewn caiac…stately progress cyflym iawn.
Cwestiynau ymchwil
Beth yw’r berthynas rhwng y cyfarwyddwr/artist gwadd gyda pherfformwyr amatur mewn prosiect? Sut fedrid cadw’r ddafol – sy’n dal grym ac awdurdod y naill a’r llall – yn wastad?
Cymraeg oedd prif iaith y prosiect. Sut mae digwyddiadau celfyddydol yn medru atgyfnerthu iaith leiafrifol er mwyn hawlio statws cymdeithasol iddi hi ei hunan?

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Elen's Fair |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Cyhoeddwr | Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales |
Statws | Cyhoeddwyd - 16 Medi 2023 |