Crynodeb
Prif amcan yr e-lyfr hwn gan yr Athro Paul O'Leary yw archwilio’r modd y cafodd Cymru ei dehongli gan sylwebyddion a theithwyr Ffrangeg eu hiaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwneir hyn trwy gyflwyno ffynonellau yn yr iaith wreiddiol gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg o destunau nad ydynt, hyd yn hyn, wedi’u defnyddio gan haneswyr. Maent yn dangos yr amrywiaeth o drafodaethau am Gymru a gafwyd yn Ffrainc, yn bennaf yn yr hanner canrif rhwng tua 1830 a’r 1870au pan drawsnewidiwyd Cymru gan dwf yn y boblogaeth (yng ngwlad a thref) a diwydiannu prysur. Mae’r ffynonellau yn ymwneud â thair thema oedd yn ganolog i fywyd yr oes: y duedd ymhlith rhai carfannau o bobl i wrthryfela yn erbyn awdurdod mewn cyfnod o newidiadau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol; yr ysfa i wybod am wreiddiau ac effeithiau twf diwydiant a masnach; a safle iaith ddiwladwriaeth a’i diwylliant mewn cyfnod pan oedd gwledydd Ewrop yn ymdrechu i greu cymunedau cenedlaethol uniaith ac unffurf.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | France and Wales 1830–1880: French Interpretations of the Nation State |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Cyhoeddwr | Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Nifer y tudalennau | 158 |
ISBN (Electronig) | 9781910699188 |
Statws | Cyhoeddwyd - 16 Tach 2015 |