Iâs: gwefr oer a phleserus

Eddie Ladd* (Perfformiwr)

*Awdur cyfatebol y gwaith hwn

Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunolPerfformiad

Crynodeb

Comisynwyd Iâs gan bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe. Eu bwriad oedd gweithio gyda myfyrwyr, gweithwyr creadigol llawrydd, academyddion a grwpiau cymunedol ledled Cymru gyda’r prif nod o fynd i’r afael â byw gyda sgil-effeithiau cyfnod Covid. Enw’u prosiect oedd Cartref a Chynefin/Home and Hinterland.

Mae Iâs yn esiampl o’m gwaith perfformiadol gyda phobl na sydd yn broffesiynol ac mae’r darn yn un o chwech ar safleoedd arbennig yr wyf wedi eu cynhyrchu ers 2016.

Ac roedd gan Iâs bedwar ar ddeg o safleoedd arbennig. Rhodiodd fan hufen iâ ar hyd yr A487 a ffyrdd bychain Ceredigion. Mae gan bob fan hufen iâ ei rownd ac fe gyrchodd hon lefydd oedd ag emyn-dôn wedi ei henwi ar eu hôl. Cychwynodd am 09.30am ar Fawrth 5ed a chyrraedd pen y daith ddeuddeg awr yn ddiweddarach. Llwybrwyd o Lanbedr trwy Gastell Newydd Emlyn, Capel Tygwydd, Llangoedmor, Penparc, Blaencefn, Blaenannerch, Cei Newydd, Llwyncelyn, Pennant, Llanrhystud, Llanbadarn, Gogerddan ac Aberystwyth. Canwyd yr emyn-dôn briodol ym mhob lle gan gorau, partïon ac unigolion. Felly, fe safodd parti Llanrhystud wrth ymyl y safle bws ger y maes parco yn y pentref i ganu Llanrhystud a’r machlud yn wenfflam; a daeth côr ABC at brom Traeth y De yn Aberystwyth ar ben y daith i ganu un o’r mawrion, Aberystwyth. Y fan oedd yn chwarae’r gyfeiliant i bob un a’i sŵn yn union fel mae sain clychau fan hufen iâ draddodiadol. Wedi’r canu roedd y cantorion yn cael hufen iâ am ddim. Nodwedd Iâs oedd adnabod ardal drwy ei cherddoriaeth a rhoi cyfle i’r doniau lleol i’w pherfformio.

Hoffwn ail-godi’r prosiect hwn y flwyddyn nesaf ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Gobeithiaf y gallai naill ai Theatr Genedlaethol Cymru neu’r Eisteddfod ei hun ei gynhyrchu. Mae yna nifer o emyn-donau wedi dod i’r amlwg, a’r mwyaf ddirdynnol ohonynt yw Gresford sydd wedi ei henwi ar ôl pentref Gresford lle roedd yna bwll glo cyfagos. Fan hyn bu un o drychinebau pennaf y diwydiant glo pan lladdwydd 261 mewn ffrwydriad dan ddaear ar Fedi’r 22ain ym 1934.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadThill/Shiver: a cold and thrilling shiver
Iaith wreiddiolCymraeg
CyhoeddwrCulture Colony Ltd
Cyfrwng allbwnAr-lein
StatwsCyhoeddwyd - 05 Maw 2022

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Iâs: gwefr oer a phleserus'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn