Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Innovations for a Changing World: IBERS Impact Case Studies

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad: Arloesiadau ar gyfer Byd sy’n Newid: Straeon Effaith IBERS

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

75 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Arwynebedd cyfyngedig o dir sydd gan y byd i greu bwyd, tanwydd a dillad i boblogaeth sy’n tyfu, ac ar yr un pryd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth.

Ar sail dros gan mlynedd o hanes o weithio i wella amaethyddiaeth tir glas, nod ymchwil IBERS yw gwneud ffermio yn fwy cynhyrchiol, mwy buddiol i’r gymdeithas a mwy gwarchodol i’n hamgylchedd.

Yn yr Athrofa, rydyn ni’n cynnal ymchwil sydd ar flaen y gad a chymhwysol arloesol sy’n sail ar gyfer bridio mathau newydd a gwell o gnydau, gan wneud amaethyddiaeth yn fwy cynaliadwy, a galluogi’r diwydiant i ddatblygu prosesau a chynhyrchion newydd.

Yma yn y Canolbarth, mae lleoliad unigryw IBERS a’i ecosystem o alluoedd yn caniatáu i’n myfyrwyr a’n hymchwilwyr gyflawni gwaith ymchwil ymarferol a hyfforddiant mewn geneteg planhigion, amaethyddiaeth, ecoleg, biotechnoleg a gwyddor amgylcheddol. Mae hyn yn fodd inni astudio’n hamgylchedd, ein cynefinoedd a’n systemau bwyd o’r mynydd i’r môr ac o’r fferm i’r fforc.

Mae ymchwil graidd IBERS yn canolbwyntio ar wneud cnydau’n fwy gwydn yn erbyn newid hinsawdd, gwella ansawdd cnydau, diogelu amrywiaeth genetig, dal carbon, a deall y rhyngweithio ehangach rhwng amaethyddiaeth a’r amgylchedd.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant i fynd i’r afael â heriau byd-eang, ymgysylltu â’r rhai sy’n ffurfio polisïau a’r gymuned amaethyddol ehangach er mwyn deall yr hanfodion yn well, ac yna cydweithio i ddod o hyd i atebion. Mae’r casgliad hwn o straeon effaith yn rhoi enghreifftiau go iawn le mae IBERS wedi creu effaith, ac yn parhau i wneud hynny, trwy gymhwyso ein biowyddoniaeth i helpu i adeiladu gwell yfory.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadArloesiadau ar gyfer Byd sy’n Newid: Straeon Effaith IBERS
Iaith wreiddiolSaesneg
CyhoeddwrPrifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Nifer y tudalennau27
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 01 Meh 2025

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Arloesiadau ar gyfer Byd sy’n Newid: Straeon Effaith IBERS'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn