It Will Come Later

Simon Banham (Dylunydd)

Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunolDyluniad

Crynodeb

Mae 'It Will Come Later' yn gynhyrchiad theatr a phrosiect dawns cydweithredol rhyngwladol gyda chwmni iCoDaCo.

Datblygwyd y gwaith dan y teitl gweithredol 'transformation'. Yn y gwaith hwn, mae'r gydweithfa yn archwilio cysyniad trawsffurfiiad o safbwyntiau gwleidyddol, ffisegol, gofodol a seicolegol. Yn ei graidd, mae chwech artist o bum gwlad yn creu eu cyd-greadigaeth gyfunol gyntaf gyda'i gilydd.

Mae pob artist yn dod â diddordeb ysol unigryw yng ngrym trawsffurfiad. Mae'r wleidyddiaeth drawsffurfiadol mewn ardaloedd fel Dwyrain Ewrop a Tsieina'n ysgogi cyfnewid gwefredig rhwng yr artistiaid hyn.

Dyma ganolbwynt gweithrediad rhyngweithiol, cynhwysol a chanddo uchelgais i gysylltu â chymunedau a chynulleidfaoedd.

Mae'r prosiect yn hyrwyddo gwerthoedd fel amrywiaeth, dioddefgarwch a chymunedolrwydd wrth greu gwaith dawns cyfoes ffres wedi ei ddylanwadu gan etifeddiaeth artistaidd a phersonol eclectig pob artist yn y cymundod.

Mae iCoDaCo hefyd yn holi ymarferion artistaidd cyfunol fel meicrocosm o undebau graddfa fawr, fel yr Undeb Ewropeaidd, drwy lensiau hunaniaeth, cenedlaetholdeb, unigoliaeth, strwythurau pŵer a chynhyrchiant.
Iaith wreiddiolSaesneg
Man cyhoeddiKrakow
CyhoeddwrKrakowskie Centrum Choreograficzne
Cyfrwng allbwnUSB
StatwsCyhoeddwyd - 22 Tach 2018
DigwyddiadBalletOFFFestival - Nowa Huta Cultural Centre – Krakow Choreographic Centre, Krakow, Gwlad Pŵyl
Hyd: 22 Tach 201825 Tach 2018
https://nck.krakow.pl/kcc/balletoff/program/

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'It Will Come Later'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn