Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd

Eleri Pryse, Helen Rose Middleton, Alan George Wood

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

46 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Mae’r papur yn ymchwilio i strwythur ac ymddygiad yr atmosffer wedi’i ïoneiddio (trydanol) yn y nos yn yr ardaloedd pegynol ac awroraid; sef yr ardal lle y mae goleuni’r Gogledd yn digwydd. O ddiddordeb arbennig y mae strwythurau plasma ar raddfeydd llorweddol o gannoedd o gilometrau. Cafodd yr arsylwadau a gyflwynir eu gwneud gan arbrawf radiotomograffeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, y mae ganddi bedair system derbyn lloeren yn yr Arctig uchel ger pegwn y gogledd, yn Ny Ålesund a Longyearbyen ar Svalbard, Bjørnøya (Ynys yr Arth) a Tromsø ar dir mawr Norwy. Mae cymariaethau rhwng delweddau tomograffeg ac arsylwadau ar lif plasma gan y radar rhyngwladol, SuperDARN, yn awgrymu bod plasma dwysedd mawr a gynhyrchir ar ochr y dydd yn llifo ar draws yr ardal begynol ac i sector y nos. Mae’r canlyniadau yn cyfrannu at y gwaith o ddehongli prosesau ffisegol sy’n cysylltu amgylchedd y Ddaear â’r gofod, ac maent hefyd o ddiddordeb i ddefnyddwyr systemau radio lle gall yr atmosffer wedi’i ïoneiddio ddirywio ymlediad y signalau.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadThe flow of ionised atmosphere over the north pole
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)35-50
Nifer y tudalennau16
CyfnodolynGwerddon
Cyfrol1
Rhif cyhoeddi2
StatwsCyhoeddwyd - 01 Hyd 2007

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn