Prosiect Archif Brith Gofa Theatr Felinfach

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadleddArall

20 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Rhwng 1981-2002, datblygodd y cwmni theatr Brith Gof ddulliau arloesol o greu perfformiadau yng Nghymru a thu hwnt; gan gynnwys cynyrchiadau theatr gorfforol, perfformiadau wedi’u dyfeisio, gweithiau safle-benodol a gweithiau dwyieithog. Roedd y cwmni hefyd yn arloeswyr yn y maes o ddogfennu perfformiadau byw, gan gynhyrchu llyfrynnau hunan-gyhoeddedig ac fe ffilmiwyd rhai o’u cynyrchiadau mwyaf ar gyfer darllediad teledu. Ar hyn o bryd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw prif geidwad rhan sylweddol o’r deunydd ar waith Brith Gof, a hynny mewn sawl diwyg a chyfrwng gwahanol: fideo, ffilm, lluniau a sleidiau, tapiau sain, cynlluniau, lluniadau, byrddau stori, scriptiau ac amrywiol o nodiadau eraill. Mae’r diddordeb parhaus yng ngwaith Brith Gof gan academyddion a gan y cyhoedd yn golygu y bydd yr archif amhrisiadwy a nodedig hwn yn gasgliad o bwysigrwydd cenedlaethol.
Iaith wreiddiolCymraeg
StatwsCyhoeddwyd - Tach 2010

Dyfynnu hyn