Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan

Tudur Davies, Lee Garratt, Simon Cox

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

107 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Yn yr erthygl hon, dadansoddir datrysiadau dichonadwy i’r broblem geometrig o rannu silindr yn dair rhan â’r un cyfaint. Darganfyddir y datrysiadau yng nghyd-destun cyflwr egnïol isaf ewyn hylifol sych. Defnyddir y meddalwedd efelychu rhifiadol Surface Evolver er mwyn enrhifo’r holl ddatrysiadau a chyfrifo’r arwynebedd ym mhob achos. Darganfyddir y datrysiad arwynebedd lleiaf ar gyfer holl werthoedd cymhareb agwedd y silindr, sef hyd ei radiws wedi’i rannu â’i uchder. Dangosir mai pedwar datrysiad optimaidd sydd i’r broblem ar gyfer holl werthoedd y gymhareb agwedd. Rhoddir cyfwng ar gyfer cymhareb agwedd y silindr ar gyfer pob un o’r datrysiadau optimaidd.
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)30-43
Nifer y tudalennau14
CyfnodolynGwerddon
Rhif cyhoeddi20
Dyddiad ar-lein cynnar02 Hyd 2015
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 02 Hyd 2015

Allweddeiriau

  • Rhaniad arwynebedd lleiaf
  • Surface Evolver
  • ewyn
  • datrysiadau rhifiadol

Dyfynnu hyn