"Seduir, seduce, més que dir que han de fer català": Astudiaeth o bolisïau iaith mewn addysg, integreiddio a mewnfudo rhyngwladol yng Nghatalwnia

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

28 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Mae’r erthygl hon yn dadansoddi llywodraethiant mewnfudo yng Nghatalwnia, gan ganolbwyntio’n benodol ar y mesurau iaith mewn addysg a roddir ar waith i ddysgu Catalaneg i fewnfudwyr. Canolbwyntir ar y rhaglen, Voluntariat per la llengua (VxL), sef prif weithgaredd y Consorci per a la Normalització Lingüística (CPNL), y prif ddarparwr ffurfiol ar gyfer dysgu’r Gatalaneg i oedolion yng Nghatalwnia a rôl siaradwyr Catalaneg mewn ymdrechion i integreiddio mewnfudwyr yn ieithyddol. Dadleuir bod siaradwyr ieithoedd lleiafrifoedd yn ganolog i’r broses o ddysgu Catalaneg i fewnfudwyr, a bod eu cyfranogiad mewn polisïau a phrosiectau ieithyddol yn cyfrannu at gydlyniad cymdeithasol a chysylltiadau rhwng grwpiau yn ogystal â chynaliadwyedd y Gatalaneg. Felly, gyda chynllunio iaith pwrpasol, gall mewnfudwyr neu siaradwyr newydd a siaradwyr iaith leiafrifol gryfhau neu adnewyddu sefyllfa iaith leiafrifol.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad"Seduir, seduce, més que dir que han de fer català": A study of language-in-education policies, integration and international immigration in Catalonia
Iaith wreiddiolCymraeg
Rhif yr erthygl31
Tudalennau (o-i)83-111
Nifer y tudalennau29
CyfnodolynGwerddon
Cyfrol31
StatwsCyhoeddwyd - 01 Hyd 2020

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil '"Seduir, seduce, més que dir que han de fer català": Astudiaeth o bolisïau iaith mewn addysg, integreiddio a mewnfudo rhyngwladol yng Nghatalwnia'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn