Crynodeb
Dros y chwarter canrif diwethaf, mae tai wedi mynd yn fwyfwy anfforddiadwy i’r mwyafrif helaeth o bobl. Mae’r erthygl hon yn ceisio mynd i’r afael â’r hyn sydd wedi achosi’r sefyllfa hon, a’i heffeithiau ar yr unigolyn ac ar y gymuned. Hefyd, bydd yn ystyried sut y mae tai anfforddiadwy a diffyg cyfleoedd tai ar gyfer pobl leol yn effeithio ar yr iaith Gymraeg. Yna, bydd yr erthygl yn ystyried y mecanweithiau a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Whitehall i ddatrys y problemau cydberthynol, sef tai anfforddiadwy a’r ffaith bod pobl leol yn methu â fforddio prynu tai yn eu hardal leol, ac i ba raddau y mae’r datrysiadau hyn yn cynnig atebion i’r dilema hwn sydd yn gynaliadwy yn y tymor hir. I orffen, cynigir awgrymiadau ynghylch sut i wella’r fframweithiau presennol, yn ogystal â dulliau mwy radical i sicrhau nad yw tai yn mynd yn foethusbeth.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Speaking the language of the home when the home is unaffordable |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Tudalennau (o-i) | 71-93 |
Nifer y tudalennau | 23 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Cyfrol | 1 |
Rhif cyhoeddi | 3 |
Statws | Cyhoeddwyd - 01 Mai 2008 |