Sinema Teifi

Eddie Ladd* (Perfformiwr)

*Awdur cyfatebol y gwaith hwn

Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunolPerfformiad

Crynodeb

Comisiynwyd Sinema Teifi gan yr artist a’r cynhyrchydd Lleucu Meinir ar gyfer Plethu, ei phrosiect hir-dymor ym mro Llandysul, Ceredigion, lle mae’n byw. Mae’r prosiect yn gweithio gyda nifer o garfannau penodol a chyda thrwch cymdeithas i greu a chynnal cyfresi o weithgareddau amrywiol. Gofynnwyd i fi lunio prosiect perfformio, digwyddiad oedd yn para amser penodol mewn lle go iawn. Roedd hyn mewn adeg pan oedd cyfyngiadau Covid ar waith o hyd.

Rwy’n berfformiwr corfforol a chyfarwyddwr symud. Gan amlaf rwy’n unawdydd neu’n cydweithio o fewn i grwpiau dawns bychain proffesiynol. Ond mae Sinema Teifi yn esiampl o’m gwaith gyda chwmnïau fwy o faint na sydd yn broffesiynol ac mae’r darn yn un o chwech ar safleoedd arbennig yr wyf wedi eu cynhyrchu ers 2016. Magwyd yr arfer hwn ynof gan Brith Gof, cwmni theatr arbrofol mwyaf blaenllaw Cymru o 1981 tan 2000.

Sinema un-nos (sef "pop-up") yw Sinema Teifi sy’n dangos ffilm a weithiwyd ar y cyd gyda thrigolion tref Llandysul a’i chyffiniau. Lleolwyd y sinema mewn sied gychod ar Awst 7fed ac mewn sied amaethyddol lawer llai mewn cae ar y 9fed. Eisteddai’r gynulleidfa wrth ford hir, gyda llyfr un bob pen iddi. Roedd tudalennau’r ddau lyfr yn wag ac fe daflwyd y ffilm ar y naill a’r llall gan daflunydd bach uwch eu pennau. Byddai’r gynulleidfa yn troi’r tudalennau wrth i olygfeydd y ffilm newid a chlywed y trac sain drwy glustffonau. Roedd tua chwech o bobl ar y tro yn medru mynychu dangosiad o 30 munud, ac fe gynhaliwyd un bob hanner awr ar y diwrnodau dan sylw.

Cwestiynau ymchwil
Cymraeg oedd prif iaith y prosiect ac fe gofnodai’r ffilm ei statws yn yr ardal. Pa strategaethau all iaith leiafrifol eu harddel er mwyn hawlio statws cymdeithasol iddi hi ei hunan? Sut all y mudiadau yn ardal Llandysul gyfrannu at y niferus fudiadau rhyngwladol sydd am gryfhau ieithoedd lleiafrifol?
Sut fedr gwaith perfformiadol yn y Gymraeg gyfrannu at yr ymgais i gryfhau iaith a diwylliant leiafrifol? A all hepgor feddylfryd prif-ffrwd wrth wneud? Sut mae grym y prif-ffrwd yn mynegi ei hun – ai trwy geisio rheoli’r berthynas gan ddefnyddio geirfa megis “conversation” ac “exchange” yn lle cydnabod ymateb y lleiafrif?

Ym mha ffordd yr ymdopiwyd â chyfyngiadau Covid er mwyn adfer digwyddiadau cyhoeddus? Sut oedd gweithio gyda charfannau sylweddol heb ymgynull fel torf? Beth oedd effaith hyn ar ffurf y darn?
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadCinema Teifi
Iaith wreiddiolCymraeg
StatwsCyhoeddwyd - 07 Awst 2021

Dyfynnu hyn