Crynodeb
Cyhoeddir yma ddarlith Gymraeg flynyddol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 2014 gyda nodiadau manwl a rhai ychwanegiadau. Trafod yr un cefndir ag a geir yn rhif (iv) uchod a wneir, ond â gogwydd ychydig yn wahanol. Mae mwy o graffu ar gyd-ymgeisydd Parry-Williams yn hon, sef ei gyd-weithiwr Timothy Lewis, gan ddwyn i olau dydd dystiolaeth fanwl ynghylch y broses o greu Cadair mewn iaith a’r trafodaethau preifat a chyhoeddus ynghylch yr ymgeisydd delfrydol ar ei chyfer. Er i Parry-Williams ymddiswyddo fel darlithydd a chofrestru fel myfyriwr meddygol, dychwelodd i’r Adran ar ôl derbyn swydd Athro yn 1920, a chynigir rhesymau posibl pam iddo wneud hynny.
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Tudalennau (o-i) | 69-88 |
Nifer y tudalennau | 20 |
Cyfnodolyn | Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion | Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion |
Cyfrol | 2015 |
Statws | Cyhoeddwyd - 2015 |