Crynodeb
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gorolwg o seminar drefnwyd dan amodau Chatham House er mwyn trafod a chloriannu cynigion Papur Gwyn, ‘Taro’r cydbwysedd yn iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst ac sy’n’n destun ymgynghoriad cyhoeddus tan 31 Hydref 2017. Trefnwyd y seminar gan Ganolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 29 Medi yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Noddwyd y digwyddiad gan Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Drawing the balance right: evaluation of the Welsh Government's proposals for the Welsh Language Bill |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Cyhoeddwr | Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University |
Nifer y tudalennau | 16 |
Statws | Cyhoeddwyd - Hyd 2017 |