The Economic Impact of the COVID-19 Pandemic on Ceredigion Businesses and Self-employed

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad: Effaith Economaidd Pandemig COVID-19 ar Fusnesau a Phobl Hunangyfl ogedig yng Ngheredigion

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad arall

79 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Nod yr astudiaeth hon yw archwilio a deall effaith economaidd pandemig COVID-19 ar fusnesau a phobl hunangyflogedig yng Ngheredigion. Mae Ceredigion yn sir wledig sydd a sectorau diwydiant allweddol megis amaethyddiaeth, lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, adeiladu, gweithgynhyrchu, y gwasanaeth sifil, iechyd a gofal cymdeithasol, y celfyddydau creadigol/adloniant, trafnidiaeth, telathrebu, ac addysg (gan gynnwys addysg uwch). Yn ogystal, mae llawer iawn o sefydliadau anllywodraethol ac elusennau wedi’u lleoli yn y sir. Un o'r prif nodweddion sy'n gwneud Ceredigion yn wahanol yw ei chyfran fawr o fusnesau hunangyflogedig (13.5% yn 2022) a mentrau bach a micro (91.8% yn 2022).

Ar 23 Mawrth 2020, cyflwynodd llywodraeth y Deyrnas Unedig gyfyngiadau amrywiol er mwyn atal lledaeniad y feirws COVID-19. Roedd y cyfyngiadau yn cynnwys cau mannau gwaith ac addoli, siopau, busnesau, canolfannau hamdden, digwyddiadau chwaraeon, gwestyau a bwytai, tafarndai, clybiau nos, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, ysgolion a phrifysgolion. Cafodd gweithgareddau nad oeddent yn hanfodol (gweler Atodiad 1), teithio nad oedd yn hanfodol, a gweithgareddau twristiaeth eu hatal dros dro. Cafodd y mesurau rheoli, y cyfyngiadau a'r cyfyngiadau symud dilynol effaith negyddol ar yr economi gan arwain at gostau uniongyrchol i fusnesau a phobl hunangyflogedig ac effaith ar refeniw a phroffidioldeb, cadwyni cyflenwi a gweithrediadau, a chyfalaf dynol. Roedd yr effaith ar weithrediadau busnes yn cynnwys: cau safleoedd busnes, llai o oriau gwaith gan fod gweithwyr yn cyfuno dyletswyddau gwaith a chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofal eraill, neu'r angen i weithwyr weithio gartref yn ystod y cyfyngiadau symud (ONS, 2020a). Ar ddechrau'r cyfnod cau a chyflwyno cyfyngiadau symud, roedd dyfodol yr economi yn edrych yn wael ac roedd disgwyl i'r sefyllfa economaidd yn y wlad waethygu (ONS, 2020a).

Yn yr astudiaeth hon, rydym wedi ymchwilio'n benodol i effaith economaidd pandemig COVID-19 ar fusnesau a phobl hunangyflogedig yng Ngheredigion. Wrth i'r cyfyngiadau symud gau'r rhan fwyaf o weithgareddau economaidd ledled y byd a'r DU, does dim amheuaeth bod y mesurau hyn wedi cael effaith negyddol ar fusnesau. Roedd effaith andwyol cau busnesau a chyflwyno cyfyngiadau symud yn fwy amlwg mewn economiau gwledig fel Ceredigion (Mahmud a Riley, 2021, Walmsley et al, 2020). Roedd y ffaith hon wedi cymell astudiaeth lefel leol i werthuso effaith y pandemig, gan amlygu gwendidau busnes ar sawl lefel yn deillio o ryngweithio rhwng ffactorau lleol fel cyfansoddiad sectoraidd yr economi leol, patrymau trosglwyddo, a mathau o fusnes.

Prif amcan y prosiect ymchwil hwn yw archwilio'r dystiolaeth a deall effaith economaidd pandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ar fusnesau a phobl hunangyflogedig yng Ngheredigion. Mae'r astudiaeth yn ceisio nodi'r datblygiadau negyddol a chadarnhaol a sut y gallent helpu i lywio'r broses o lunio polisiau yn y dyfodol. Bydd y wybodaeth sy'n deillio o'r gwaith ymchwil hwn yn ddefnyddiol i lunwyr polisi wrth ddarparu mesurau priodol i gynorthwyo adferiad busnesau. Disgwylir y bydd yr adroddiad hwn o werth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n gweithredu yn y sir ac mewn siroedd tebyg eraill ledled y DU.

Mae'r astudiaeth hon yn seiliedig ar arolwg o fusnesau a phobl hunangyflogedig yng Ngheredigion ac mae'n cael ei llywio gan adolygiad o lenyddiaeth academaidd gysylltiedig ac astudiaethau eraill a gwblhawyd gan asiantaethau'r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol ar effaith pandemig COVID-19 yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yn y byd.

Mae'r prosiect ymchwil hwn yn archwilio sut y gwnaeth busnesau a phobl hunangyflogedig yng Ngheredigion ymdopi yn ystod pandemig COVID-19. Mae busnesau a phobl hunangyflogedig yng Ngheredigion wedi darparu gwybodaeth am eu lefel o broffidioldeb a refeniw, y gadwyn gyflenwi a materion gweithredol, cyfalaf dynol, cynlluniau cymorth y llywodraeth, materion cysylltedd digidol, a hyder yn y dyfodol. Mae'r ymatebion hyn yn cael eu harchwilio ym mhrif gorff yr adroddiad.

Fe wnaethom dderbyn cyfanswm o ddeugain o ymatebion gan fusnesau a thrideg saith o ymatebion gan unigolion hunangyflogedig yng Ngheredigion. Roedd yr ymatebwyr wedi cwblhau fersiwn ar-lein yr arolwg, a oedd ar gael ar wefannau Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth ac ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill. Yn ystod y pandemig, y platfform ar-lein oedd y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel o gyrraedd busnesau a phobl hunangyflogedig, felly fe wnaethom benderfynu cynnal arolwg ar-lein.

Mae crynodeb o'r amrywiaeth o fusnesau a holwyd yn dangos y canlynol: roedd 10.5% o fusnesau ond wedi bod yn weithredol yn y flwyddyn cyn cyflwyno'r cyfyngiadau symud ym mis Mawrth 2020, roedd 60.5% o fusnesau wedi bod yn weithredol ers 2000, ac roedd 39.5% o fusnesau wedi'u sefydlu cyn y flwyddyn 2000. Roedd 47% o'r ymatebwyr busnes yn gwmnïau atebolrwydd cyfyngedig. Roedd 62% o'r busnesau a holwyd yn cael eu cynnal dan drefniant unig berchennog. Roedd yr ymatebwyr yn dod o ystod eang o sectorau diwydiannol. Y gyfran fwyaf oedd 32% ym meysydd lletygarwch, twristiaeth a'r sector hamdden, yna 17% ym maes manwerthu, 12% mewn adeiladu, 7% mewn gweithgynhyrchu a chludiant, 5% mewn gofal plant, 5% mewn TG, 3% yr un mewn gwasanaethau ariannol, addysg ac amaethyddiaeth, a 2% yr un mewn gofal iechyd, cyfreithiol a diwydiant y cyfryngau.

Mae ein canfyddiadau'n dangos newidiadau sylweddol mewn refeniw busnesau, lefelau dyled allanol, newidiadau yn y galw ac yn nifer y cwsmeriaid, a tharfu ar gadwyni cyflenwi ers dechrau'r pandemig COVID-19. Newidiwyd yr amgylchedd busnes yn sylweddol o ganlyniad i'r angen i newid gweithrediadau er mwyn cydymffurfio a chyfyngiadau'r llywodraeth e.e. cadw pellter cymdeithasol, mwy o lanweithdra a glanhau, a staff a chyfrifoldebau gofalu yn gweithio gartref. Yn ogystal, arweiniodd yr angen i weithredu ar-lein at gynnydd sylweddol yn nifer y busnesau a oedd yn gorfod darparu dyfeisiau cyfrifiadurol, cysylltedd rhyngrwyd a hygyrchedd digidol ar gyfer eu gweithrediadau.

Cafodd COVID-19 effaith negyddol ar refeniw dros ddwy ran o dair o'r sampl o fusnesau a holwyd. Roedd refeniw 69% o fusnesau wedi gostwng tra bod refeniw 10.5% ohonynt wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Roedd lefel dyled allanol 33% o fusnesau wedi codi a nododd 54% o fusnesau fod eu cyllid wedi amrywio yn ystod y pandemig. Dywedodd 92% o fusnesau eu bod wedi wynebu anawsterau mewn meysydd gwahanol o'u busnes. Dyma'r anawsterau: tarfu ar gadwyni cyflenwi, gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid, gostyngiad mewn llif arian, cynnydd yn nifer dyledwyr busnesau, materion staffio, amgylchiadau teuluol, mynediad at farchnadoedd lleol, a phroblemau hygyrchedd oherwydd parthau diogel mewn trefi.

Gan ganolbwyntio ar yr ymatebwyr hunangyflogedig i'r arolwg, nododd 46% fod nifer cwsmeriaid y busnes wedi gostwng oherwydd cyfyngiadau COVID-19, a nododd 43% o fusnesau hunangyflogedig fod refeniw'r busnes wedi gostwng gan fod llai o alw am eu cynhyrchion a'u gwasanaethau, o'i gymharu ag 8% a nododd gynnydd mewn refeniw busnes oherwydd cynnydd yn y galw am eu cynhyrchion a'u gwasanaethau.

Arweiniodd yr achosion o COVID-19 at darfu sylweddol ar gadwyn gyflenwi busnesau yng Ngheredigion. Nododd 45% o'r busnesau fod eu cadwyni cyflenwi wedi wynebu graddau gwahanol o darfu. Cafodd 5% o'r ymatebwyr hunangyflogedig eu heffeithio'n uniongyrchol gan brinder cyflenwadau sy'n angenrheidiol i gynnal eu busnesau. Oherwydd yr effaith ar gadwyni cyflenwi a'r ffaith fod busnesau wedi gorfod cau dros dro, bu'n rhaid i lawer o fusnesau fabwysiadu dulliau gweithio newydd ac addasu i anghenion cwsmeriaid mewn cyfnod byr iawn.

Ymysg y busnesau a holwyd, bu'n rhaid i 76% newid eu dull gweithredu yn sgil cyflwyno mesurau iechyd a diogelwch newydd. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys lleihau capasiti gweithredol er mwyn sicrhau bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol, diheintio a glanhau ardaloedd cwsmeriaid yn aml, addasu'r busnes i ddarparu gwasanaeth tecawe yn unig, symud y busnes ar-lein, newid patrymau sifftiau i weithwyr, a symud cyfarfodydd ar-lein wrth i rai gweithwyr barhau i weithio gartref. Nododd 47% o'r busnesau a holwyd iddynt wynebu problemau a mynediad a chysylltedd digidol gan gynnwys gwasanaeth band eang araf, signal ffon symudol gwael, diffyg sgiliau digidol, a chost mynediad digidol. Mae'r gallu i symud y busnes cyfan neu ran o'r busnes ar-lein yn dibynnu ar seilwaith a chysylltedd digidol da.

Roedd COVID-19 wedi cael effaith ar 3% o'r busnesau a holwyd, a bu'n rhaid iddynt gau eu busnes yn barhaol, tra bod 69% wedi gorfod cau eu busnes dros dro. Ar ol i'r busnesau orfod cau yn y dechrau, llwyddodd y rhan fwyaf ohonynt i weithredu mewn rhyw ffordd. Ni wnaeth 95% o fusnesau yng Ngheredigion gau'n barhaol. Fe wnaeth 3% o fusnesau hunangyflogedig gau'n barhaol tra bod 35% wedi cau dros dro. Roedd y busnesau hunangyflogedig a gaeodd dros dro yn cynnwys busnesau ym meysydd lletygarwch, y celfyddydau creadigol, artist ffotograffiaeth, manwerthu, gwasanaethau busnes, cadw siop, ffotograffiaeth, trin gwallt, therapi cyffredinol a chynnal a chadw eiddo.

Cafodd y pandemig effaith andwyol ar gyfalaf dynol a arweiniodd at ddiswyddiadau, llai o oriau gwaith a newidiadau mewn patrymau gwaith. Dywedodd 13% o fusnesau eu bod wedi diswyddo staff oherwydd y pandemig. Roedd 41% o fusnesau wedi lleihau oriau gwaith eu gweithwyr, ac roedd staff 32% ohonynt yn gweithio gartref. Roedd 34% o weithwyr yn yr holl fusnesau a holwyd yn gofalu am blant yn ystod y pandemig. Hefyd, roedd gweithwyr yn hunanynysu neu ar absenoldeb salwch ac yn derbyn absenoldeb salwch am dal gan y cwmni neu Dal Salwch Statudol oherwydd y pandemig. Cafodd y diswyddiadau, y newidiadau i batrymau gwaith a'r prinder staff oherwydd absenoldeb salwch neu oherwydd bod pobl yn hunanynysu effaith negyddol anuniongyrchol ar y busnesau a holwyd.

Cyflwynodd y llywodraeth ystod o gynlluniau cymorth er mwyn helpu busnesau a phobl hunangyflogedig. Cynlluniau cymorth y llywodraeth a ddefnyddiwyd fwyaf oedd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (Ffyrlo) i helpu i gadw gweithwyr yn ystod y pandemig a'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) i gefnogi pobl hunangyflogedig. Dangosodd yr ymatebion fod busnesau wedi gwneud cais am gynlluniau eraill, gan gynnwys: grantiau Llywodraeth Cymru, benthyciadau adfer, cynllun grantiau ardrethi busnes, grantiau cymorth busnes, grantiau busnes ardrethi annomestig, grantiau dewisol Awdurdodau Lleol, grantiau busnesau bach, grant COVID i gychwyn busnes, Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS), Cynllun Benthyciadau Adfer (BBLS), benthyciadau wedi'u cefnogi gan y Llywodraeth, a'r Gronfa Cadernid Economaidd.

Yng Ngheredigion, roedd 59% o'r busnesau a holwyd wedi cofrestru ar gyfer cynllun Ffyrlo'r llywodraeth. Nid oedd unig fasnachwyr na busnesau hunangyflogedig yn gymwys ar gyfer y cynllun. Nid oedd busnesau nad oedd ganddynt unrhyw weithwyr neu nad oeddent wedi bod yn masnachu'n ddigon hir yn gymwys chwaith. Fe wnaeth rhai busnesau barhau i fasnachu trwy gydol y pandemig gan gynnal y lefelau staffio a oedd ganddynt cyn y pandemig heb gymorth y cynllun Ffyrlo. Roedd y rhain yn cynnwys busnesau a staff a oedd yn gweithio gartref a busnesau a oedd yn parhau i werthu nwyddau (ond ar lefel is na'r blynyddoedd blaenorol) neu fusnesau a werthodd fwy o nwyddau yn sgil cyflwyno llinellau busnes newydd.

Yn wahanol i'r Cynllun Ffyrlo a gyflwynwyd yn gyflymach, cafodd y cynllun SEISS ei gyflwyno ddeufis yn ddiweddarach. Roedd yr oedi cyn sefydlu'r cynllun wedi cyfrannu at galedi ariannol busnesau bach ac roedd y meini prawf cymhwysedd yn hepgor sawl categori o bobl hunangyflogedig. Roedd 27% o fusnesau hunangyflogedig wedi gwneud cais am gynllun SEISS y Llywodraeth. Roedd 22% o bobl hunangyflogedig a holwyd yn gymwys ac yn llwyddiannus yn eu cais am unrhyw gynlluniau cymorth busnes hunangyflogaeth y llywodraeth. Nododd 76% o'r ymatebwyr hunangyflogedig nad oeddent yn gymwys ar gyfer unrhyw un o gynlluniau cymorth busnes hunangyflogaeth y llywodraeth. Mae'r ffigurau hyn yn awgrymu bod y meini prawf cymhwysedd wedi eithrio rhai pobl hunangyflogedig rhag cymryd rhan yn y cynlluniau hyn.

Llwyddodd y mesurau rheoli a roddwyd ar waith i leihau lledaeniad feirws COVID-19 a lleihau'r baich ar y GIG. Hefyd, llwyddodd cynlluniau cymorth busnes y llywodraeth i leddfu rhai o effeithiau andwyol y pandemig. Fodd bynnag, roedd busnesau a phobl hunangyflogedig wedi dioddef oherwydd y mesurau rheoli er gwaethaf cymorth y llywodraeth. Er enghraifft, roedd y penderfyniad i gau gweithgareddau economaidd yn ystod y pandemig yn golygu bod llai o alw amdanynt, ac fe gafodd hyn effaith negyddol ar refeniw ac elw gan arwain at gau busnesau. Bu'n rhaid i rai busnesau ysgwyddo dyledion ychwanegol er mwyn goroesi. Hefyd, cafodd cyfyngiadau symud a mesurau rheoli COVID-19 eraill effaith negyddol uniongyrchol ar weithrediadau busnes a chadwyni cyflenwi. Cafodd staff eu diswyddo, roedd rhai yn gweithio gartref, rhai yn hunanynysu ar ol cael eu heintio, rhai wedi cymryd absenoldeb salwch am dal neu heb dal, a rhai yn ymgymryd a chyfrifoldebau addysgu gartref neu gyfrifoldebau gofal eraill. Cafodd pob un o'r rhain effaith negyddol ar fusnesau trwy newidiadau mewn oriau gwaith, patrymau gwaith a chyfrifoldebau gweithwyr. Llwyddodd y Cynllun Ffyrlo a'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig i helpu i gadw staff a chynorthwyo pobl hunangyflogedig. Fodd bynnag, cafwyd oedi wrth gyflwyno'r SEISS, ac roedd sawl categori o bobl hunangyflogedig wedi'u heithrio o'r cynllun ar sail y meini prawf cymhwysedd.

Yn olaf, fel sy'n wir am unrhyw ddull casglu data sy'n seiliedig ar arolwg, mae angen bod yn ofalus wrth ddarllen a dehongli canlyniadau'r astudiaeth hon. Mae'n bosibl bod busnesau a phobl hunangyflogedig a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y pandemig yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar eu sefyllfa ac nad oeddent wedi'u cymell i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae hyn yn golygu nad yw rhai o effeithiau gwaethaf y pandemig ar fusnesau yng Ngheredigion wedi cael eu hadlewyrchu yn ein canlyniadau o bosibl. Nid oedd modd defnyddio dulliau casglu data amgen fel grwpiau ffocws oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadEffaith Economaidd Pandemig COVID-19 ar Fusnesau a Phobl Hunangyfl ogedig yng Ngheredigion
Iaith wreiddiolSaesneg
CyhoeddwrPrifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Nifer y tudalennau56
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 19 Medi 2023

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Effaith Economaidd Pandemig COVID-19 ar Fusnesau a Phobl Hunangyfl ogedig yng Ngheredigion'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn