The Socio-Economic Impact of the COVID-19 Pandemic on Ceredigion County Households

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad: Effaith Economaidd-Gymdeithasol Pandemig COVID-19 ar Aelwydydd Sir Ceredigion

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadAdroddiad arall

95 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Amcan yr astudiaeth hon yw ymchwilio i effaith economaidd-gymdeithasol pandemig COVID-19 ar drigolion Ceredigion. Wrth i gyfyngiadau symud atal y rhan fwyaf o weithgareddau economaidd ledled y byd ac yn y DU, roedd yn anochel y byddai hynny'n cael effaith bellgyrhaeddol ar bob cwr o'r byd. Felly, roedd disgwyl na fyddai Sir Ceredigion, un o siroedd gwledig y DU, yn osgoi effaith economaiddgymdeithasol y pandemig. Yn ogystal, roedd effaith gyfun ddisgwyliedig pandemig COVID-19 a chyfyngiadau'r llywodraeth yn dangos yn glir bod angen astudiaeth o'r math hwn.

Lleolir Ceredigion yn ardal arfordirol y Canolbarth. Yn ddaearyddol, gellir disgrifio Ceredigion fel sir wledig yn bennaf, sy'n cynnwys trefi, pentrefi, ac aneddiadau eraill sydd â phoblogaeth isel. Mae'r rhan fwyaf o weithgareddau economaidd yn cynnwys amaethyddiaeth, lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, y gwasanaeth sifil, addysg, gan gynnwys addysg uwch, hunangyflogaeth, sefydliadau anllywodraethol, ac elusennau. Arweiniodd yr achosion o'r feirws COVID-19 ddiwedd 2019 a'r datganiad ym mis Mawrth 2020 bod y clefyd wedi troi'n bandemig at gyflwyno cyfyngiadau amrywiol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio rheoli lledaeniad y clefyd. O ganlyniad i bandemig COVID-19, bu'n rhaid cyflwyno rhai mesurau cyfyngu, a gafodd effaith negyddol uniongyrchol ar yr economi, iechyd cymdeithasol, ac iechyd meddwl y boblogaeth. Cyn bo hir, roedd yn amlwg bod y pandemig, y cyfyngiadau, a'r cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan y llywodraeth yn arwain at gostau economaiddgymdeithasol. Cyflwynodd Llywodraeth y DU fesurau aros gartref ddydd Llun 23 Mawrth 2020.

Prif amcan y prosiect ymchwil hwn yw archwilio'r dystiolaeth i ddeall effaith economaiddgymdeithasol pandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ar aelwydydd yng Ngheredigion. Yn ogystal, mae'r astudiaeth yn ceisio deall y datblygiadau negyddol a chadarnhaol a ddigwyddodd yn ystod y pandemig a sut y gallent helpu i lywio ymatebion polisi'r cyngor sir yn y dyfodol. Hefyd, disgwylir y bydd yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol i randdeiliaid eraill sy'n gweithio yn y sir, megis asiantaethau'r llywodraeth, cyrff anllywodraethol, elusennau a thrigolion. Mae'r astudiaeth hon yn seiliedig ar arolwg o aelwydydd yng Ngheredigion, adolygiad o lenyddiaeth academaidd gysylltiedig, ac astudiaethau eraill a gwblhawyd gan asiantaethau'r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol ar effaith pandemig COVID-19 yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yn y byd.

Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i'r newid mewn amodau byw, cyflogaeth, enillion a lefelau defnydd trigolion Ceredigion ers dechrau pandemig COVID-19. Hefyd, mae'n archwilio sut y gwnaeth trigolion Ceredigion ymdopi wrth orfod aros gartref, gan ganolbwyntio ar effaith cau ysgolion, newidiadau i weithgareddau wythnosol, cyfrifoldebau gofal a materion cysylltedd digidol.

Cawsom gyfanswm o ddau gant pedwar deg chwech (246) o ymatebion i'n harolwg. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi cwblhau fersiwn ar-lein yr arolwg, a oedd ar gael ar wefannau Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth ac ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill. Yn ystod y pandemig, roedd yn ymddangos mai'r platfform ar-lein oedd y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel o gyrraedd pobl, felly gwnaethom benderfynu cynnal arolwg ar-lein o'r trigolion. Hefyd, credwn na wnaeth y dull casglu data effeithio ar gyfanswm nac amrywiaeth y data a gasglwyd. Mae hyn oherwydd bod ein sampl yn ddigon amrywiol o safbwynt oedran, ethnigrwydd, crefydd, galwedigaeth, addysg, a lefelau incwm. Felly, yn ôl confensiwn, mae lefel yr ymateb a gafwyd yn fwy na digon ar gyfer lefel yr astudiaeth hon.

Cafwyd ymatebion gan drigolion 16 oed a hŷn, ac roedd 73% ohonynt yn fenywod a 25% yn ddynion. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (77%) rhwng 25 a 64 oed. Roedd 93% o'r ymatebwyr wedi nodi eu bod yn perthyn i grŵp ethnig gwyn, ac roedd 3% yn perthyn i grwpiau ethnig leiafrifol. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys trigolion sy'n gweithio, myfyrwyr llawn amser a phensiynwyr. Roedd galwedigaethau'r ymatebwyr yn amrywio'n fawr. Roedd 46% ohonynt yn gweithio ym maes addysg a'r byd academaidd, 13% yn gweithio yn y gwasanaeth sifil, 13% yn gweithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal plant, a 10% yn gweithio i gwmnïau nid-er-elw, elusennau, mentrau cymdeithasol, a grwpiau gwirfoddol. Roedd 15% o'r ymatebwyr yn ennill cyflog blynyddol o £15,000 neu lai. Roedd 15% yn ennill rhwng £26,000 a £35,000, roedd 16% yn ennill rhwng £36,000 a £45,000, ac roedd 14% yn ennill £66,000 neu fwy.

Mae ein canfyddiadau yn dangos newidiadau sylweddol ym mhatrymau cymdeithasol, economaidd ac iechyd y boblogaeth ers dechrau'r pandemig COVID-19 yn gynnar yn 2020. Mae meysydd fel gwariant aelwydydd, cyfrifoldebau gofal, addysgu gartref, sefyllfaoedd cyflogaeth, iechyd meddwl, ymarfer corff ac ymarfer awyr agored, a chyflyrau iechyd cyffredinol wedi newid yn sylweddol yn ystod y pandemig. Yn ogystal, mae'r angen am ddyfeisiau cyfrifiadurol, cysylltedd rhyngrwyd, a hygyrchedd digidol wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Yn ôl yr ymatebion i'n harolwg, er y gallai cynlluniau cymorth cyflogaeth amrywiol y llywodraeth fod wedi helpu i liniaru effeithiau uniongyrchol y pandemig, mae'n bosibl eu bod wedi cuddio gwir oblygiadau'r pandemig o safbwynt sefyllfa gyflogaeth trigolion Ceredigion. Mae ein harolwg yn dangos bod effaith y pandemig a'r cyfyngiadau symud ar sefyllfa gyflogaeth unigolion yng Ngheredigion wedi amrywio'n sylweddol. Er enghraifft, roedd 60% o bobl mewn cyflogaeth am dâl yn gweithio gartref ers dechrau'r pandemig. Roedd 61% yn parhau i weithio'r un oriau gwaith â'u horiau gwaith cyn COVID-19, roedd oriau gwaith 5% wedi lleihau, ac roedd 3% arall wedi'u diswyddo'n barhaol neu roedd eu swyddi wedi'u dileu'n barhaol oherwydd y pandemig. Roedd 3% arall wedi colli eu swyddi gan fod eu cyflogwr wedi cau oherwydd effeithiau andwyol y pandemig. Roedd pobl sy'n gweithio yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, y celfyddydau ac adloniant wedi cael eu heffeithio yn fwy na neb oherwydd cyfyngiadau a mesurau cyfyngiadau symud y llywodraeth yn ystod pandemig COVID-19. Ar y llaw arall, roedd pobl mewn galwedigaethau fel addysgu a'r gwasanaeth sifil yn parhau i weithio ar-lein o'u cartrefi. Er ei bod yn ymddangos bod Cynllun Ffyrlo'r llywodraeth wedi lliniaru effaith andwyol ddisgwyliedig y pandemig ar gyflogaeth, roedd ansicrwydd ynglŷn â beth oedd wedi digwydd i sefyllfa gyflogaeth pobl pan gafodd y Cynllun Ffyrlo a chynlluniau cymorth cyflogaeth eraill eu tynnu'n ôl yn gyfan gwbl.

Roedd effaith pandemig COVID-19 ar incwm aelwydydd a grym gwario yn y sir yn amrywio'n sylweddol. Mae ein harolwg yn dangos bod 27% wedi gwario llai o arian yn bennaf oherwydd gostyngiad yn eu hincwm gwario oherwydd effaith y pandemig ar eu swyddi. Bu'n rhaid i'r rhan fwyaf o bobl addasu eu lefel gwariant pan gawsant eu rhoi ar y Cynllun Ffyrlo, wrth i’w horiau gwaith dan gontract leihau neu wrth iddynt golli eu swyddi. Yn ogystal, roedd 8% o'r ymatebwyr wedi trefnu i atal eu taliadau morgeisi, benthyciadau, neu addaliadau cardiau credyd i'w benthycwyr achos bod ganddynt lai o incwm. Yn gyffredinol, dywedodd 80% o'r ymatebwyr eu bod wedi newid eu harferion gwario, ac roedd y cynnydd mwyaf sylweddol i'w weld mewn gwariant ar eitemau bwyd, biliau cyfleustodau cartref, darpariaeth rhyngrwyd, ac adloniant ar-lein. Roedd y cynnydd mewn biliau cyfleustodau, y rhyngrwyd ac adloniant ar-lein wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r ffaith fod unigolion yn treulio mwy o amser gartref ac yn gweithio gartref oherwydd cyfyngiadau'r pandemig. Ar y llaw arall, cafwyd gostyngiad mewn gwariant ar gymdeithasu yn yr awyr agored, tanwydd ar gyfer cymudo, a theithio yn gyffredinol.

Yn ystod y pandemig, roedd yr angen i addysgu plant gartref gan fod yr ysgolion ar gau wedi cynyddu cyfrifoldebau rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid. Mae'r cynnydd hwn mewn cyfrifoldebau yn fwy amlwg ar gyfer aelwydydd un rhiant, aelwydydd â mwy nag un plentyn, ac aelwydydd lle mae'r rhiant neu'r gwarcheidwad cyfrifol mewn cyflogaeth llawn amser. Roedd y pwysau ychwanegol yn deillio o'r ffaith fod cyfrifoldebau newydd pobl wedi arwain at straen a phryder, gan effeithio ymhellach ar eu cynhyrchiant a'u perfformiad yn y gwaith. Roedd plant yn byw mewn 40% o'r aelwydydd a holwyd, ac roedd llawer o rieni'n ei chael yn anodd sicrhau cydbwysedd rhwng addysgu eu plant gartref a chyflawni eu cyfrifoldebau gwaith. Mae hyn yn deillio o'r ffaith fod ysgolion a lleoliadau gofal plant wedi cau yn ysbeidiol yng Ngheredigion yn ystod y pandemig. I rai unigolion sy'n perthyn i'r categori 'gweithiwr allweddol/gweithiwr hanfodol' (Gweler Atodiad 1), roedd y sefyllfa hyd yn oed yn fwy heriol. Y rheswm am hyn yw'r ffaith fod gweithwyr hanfodol yn parhau i weithio yn eu gweithleoedd yn ystod y pandemig gan fod eu gwasanaethau yn cael eu hystyried yn hanfodol gan y llywodraeth ac na allent weithio gartref. Er bod darpariaeth gofal plant wedi'i chyflwyno i blant gweithwyr hanfodol, mae llawer o bobl yn cwestiynu ansawdd yr addysg a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn. Rhai o'r rhesymau oedd y ffaith na allai'r canolfannau gofal plant fod wedi gwasanaethu fel cyfleusterau gofal ac addysgol ar yr un pryd. Yn ystod cyfnod cychwynnol y pandemig, roedd plant ysgol o ysgolion gwahanol yn derbyn gofal yn yr un cyfleuster dan ofal Cyngor Sir Ceredigion. Yn ogystal, roedd rhywfaint o ddryswch ynglŷn â phwy oedd yn gymwys i gael ei ddynodi'n 'weithiwr allweddol', yn enwedig gan fod y disgrifiad yng nghanllawiau cychwynnol y llywodraeth braidd yn amwys. Er enghraifft, er bod cynorthwywyr gofal iechyd sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn bodloni'r meini prawf, nid oedd hynny’n wir am ofalwyr mewn cartrefi gofal. Roedd gofal plant ac addysgu plant gartref yn anodd i ofalwyr mewn cartrefi gofal gan fod angen iddynt barhau i weithio ar y safle. Yn ogystal, roedd 14% o'r ymatebwyr yn gofalu am oedolion sy'n byw gartref ac aelodau eraill o'r teulu ac yn parhau i gyflawni cyfrifoldebau gwaith eraill.

Mae ein canfyddiadau yn dangos bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl, corfforol ac iechyd cyffredinol trigolion Ceredigion. Nododd 55% o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo eu bod wedi’u hynysu o’u ffrindiau, aelodau'r teulu a chymdeithas yn ystod y pandemig. Hefyd, roedd yn rhaid i 14% o'r ymatebwyr warchod eu hunain yn dilyn y canllawiau iechyd a roddwyd i unigolion agored i niwed gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ni allai'r unigolion hyn gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch corfforol y tu allan i'w cartrefi. Roedd unigolion a oedd yn cael eu gwarchod ac yn byw ar eu pennau eu hunain wedi'u hynysu ymhellach o'u teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymuned ehangach. Roedd rhai yn credu bod y trefniadau gwarchod wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl. Roedd 33% arall wedi cael anhawster i raddau gwahanol â'u lles meddwl cyffredinol, ac roedd 18% wedi dioddef caledi yn ystod y pandemig. Yn ogystal, nid oedd 37% o'r ymatebwyr yn gallu parhau â'u hymarfer corff arferol oherwydd bod campfeydd wedi cau a bod cyfyngiadau wedi’u cyflwyno ar ddefnyddio mannau awyr agored y tu allan i'r cartref. Roedd 42% yn credu bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith uniongyrchol ar eu gweithgarwch corfforol rheolaidd. Tra bod gwasanaethau gofal iechyd yn ymdrin ag effeithiau COVID-19, mae'r canfyddiadau uchod yn dangos nad oedd meysydd gofal iechyd a lles eraill fel pe baent yn cael y sylw haeddiannol.

Fel sy'n wir am unrhyw ddull casglu data sy'n seiliedig ar arolwg, mae'n bwysig nodi bod y rhan fwyaf o'r bobl a gwblhaodd yr holiadur yn debygol o fod y rhai a gafodd eu heffeithio leiaf gan y pandemig. Mae hyn yn amlwg o nodweddion demograffig ac incwm yr ymatebwyr - felly mae angen bod yn ofalus wrth ddarllen a dehongli'r canlyniadau. Yn ogystal, mae'n bosibl bod y bobl a gafodd eu heffeithio yn waeth na neb yn poeni gormod am eu sefyllfa bresennol i sylwi ar yr arolwg, neu nad oeddent wedi'u cymell i gymryd rhan yn yr arolwg. Roeddem wedi gobeithio casglu rhagor o dystiolaeth trwy ddefnyddio dull casglu data gwahanol megis grwpiau ffocws wyneb-yn-wyneb, ond nid oedd modd gwneud hynny oherwydd cyfyngiadau'r pandemig COVID-19 a oedd ar waith yn ystod y cyfnod casglu data.

Yn olaf, mae canlyniad yr astudiaeth hon yn dangos ei bod yn bosibl bod y mesurau cyfyngu a roddwyd ar waith wedi llwyddo i leihau lledaeniad y feirws COVID-19 a'r baich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond bod lles economaiddgymdeithasol a lles cyffredinol y boblogaeth wedi dioddef yn rhannol o ganlyniad i'r mesurau hynny. Er enghraifft, roedd y ffaith fod gweithgareddau economaidd wedi dod i ben yn ystod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar incwm pobl wrth iddynt golli swyddi, cael llai o oriau gwaith dan gontract, neu gael llai o gyflog os oeddent ar y Cynllun Ffyrlo. Hefyd, cafodd cyfyngiadau symud a mesurau cyfyngu COVID-19 eraill effaith negyddol uniongyrchol ar les cyffredinol pobl gan eu bod wedi'u hynysu yn gorfforol oddi wrth deuluoedd a ffrindiau, ac na allent fynychu cyfleusterau ymarfer corff fel campfeydd a phyllau nofio, neu ddefnyddio mannau agored. Hefyd, cafodd y straen ychwanegol o weithio gartref ac addysgu plant gartref effeithiauandwyol sylweddol ar y boblogaeth, gan arwain at broblemau iechyd a chymdeithasol eraill. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o bobl yn fwy agored i niwed ar sawl lefel. Disgwylir mai bod yn agored i niwed o safbwynt cymdeithasol, iechyd ac economaidd yw rhai o effeithiau tymor canolig i hirdymor pandemig COVID-19. Felly, mae'n rhaid i sefydliadau, llywodraethau ac asiantaethau'r llywodraeth fod yn rhagweithiol wrth gyflwyno fframweithiau polisi priodol i fynd i'r afael ag effeithiau pandemig COVID-19 yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadEffaith Economaidd-Gymdeithasol Pandemig COVID-19 ar Aelwydydd Sir Ceredigion
Iaith wreiddiolSaesneg
CyhoeddwrPrifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Nifer y tudalennau72
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 19 Medi 2023

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Effaith Economaidd-Gymdeithasol Pandemig COVID-19 ar Aelwydydd Sir Ceredigion'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn