Theatr Ôl-Ddramataidd

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennod

Crynodeb

Mae’r bennod yma yn ymdrin â’r cysyniad o theatr ôl-dddramataidd. Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer cyfrol sydd wedi’i anelu at fyfyrwyr israddedig, ac mae’r ysgrif yn adlewyrchu’r ffaith bod y ddamcaniaeth a’r eirfa gysylltiedig yn anghyfarwydd i fyfyrwyr yn yr iaith Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i ymdriniaeth benodol o’r cysyniad o theatr ôl-ddramataidd gael ei gyhoeddi yn y Gymraeg.

Yn hanner cyntaf y bennod rhoddir amlinelliad o gyd-destun hanesyddol y ddamcaniaeth cyn disgrifio rhai o’i brif gonglfeini. Yn yr ail hanner, ceir pum astudiaeth achos wedi’u trefnu yn ôl pum ‘elfen’ yr ôl-ddramatidd fel y disgrifir gan Hans-Thies Lehmann (1999).
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadPostdramatic Theatre
Iaith wreiddiolCymraeg
TeitlYsgrifau ar Theatr a Pherfformio
GolygyddionAnwen Jones, Lisa Lewis
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press
Tudalennau119-141
Nifer y tudalennau23
ISBN (Argraffiad)9780708326510
StatwsCyhoeddwyd - Awst 2013

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Theatr Ôl-Ddramataidd'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn