Understanding AI in rural SMEs: Opportunities for Wales

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad: Deall deallusrwydd artiffisial mewn busnesau gwledig: Cyfleoedd i Gymru

David Dowell, Robert Bowen, Wyn Morris

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigolErthygl

Crynodeb

Mae deallusrwydd artiffisial wedi cael effaith yn gynt nag unrhyw dechnoleg arall ar draws ystod eang o sectorau busnes. Yn 2023, nododd Cyngor Technoleg Forbes mai deallusrwydd artiffisial yw’r dechnoleg a fabwysiadwyd gyflymaf erioed gan fyd busnes.

Daw hyn yn sgil blynyddoedd lawer o ymchwil ac o ddatblygu cynhyrchion fel ChatGPT, a arweiniodd y ffordd.

Deallusrwydd artiffisial yw lle mae technoleg a pheiriannau yn gallu dynwared tasgau dynol. Yn y DU, amcangyfrifir bod y farchnad deallusrwydd artiffisial yn werth £16.8 biliwn. Yn fyd-eang, mae lefelau buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial yn amrywio'n fawr, yn bennaf oherwydd bod llawer yn derbyn y bydd yn sicr o gael effaith ar swyddi.

Mae deallusrwydd artiffisial wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU yn ei Chynllun Gweithredu Cyfleoedd AI y DU fel agwedd bwysig ar dyfu economi’r DU, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a gwella bywydau pobl. Mae cyfleoedd wedi'u nodi yng Nghymru, fel y campws canolfan ddata a grëwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn yr erthygl hon rydym yn edrych ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan fusnesau bach a chanolig ac yn nodi canfyddiadau ein hymchwil i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau) gwledig yng Nghymru. Rydym yn cloi drwy dynnu sylw at ystyriaethau ar gyfer llunwyr polisïau.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadDeall deallusrwydd artiffisial mewn busnesau gwledig: Cyfleoedd i Gymru
Iaith wreiddiolSaesneg
Cyhoeddiad arbenigolYmchwil Senedd | Senedd Research
CyhoeddwrSenedd Cymru
StatwsCyhoeddwyd - 31 Ion 2025

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Deall deallusrwydd artiffisial mewn busnesau gwledig: Cyfleoedd i Gymru'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn