Crynodeb
Wedi'i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a'r Ceffyl yn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol. Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grëwyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood, mae'r testun unigryw hwn wedi taro tant â darllenwyr ledled y byd gyda'i wersi bywyd tyner sy'n ein atgoffa o bŵer cyfeillgarwch yng nghanol byd blith-draphlith. Wedi'i gyhoeddi yn gyntaf yn 2019 gan Penguin, mae'r llyfr hwn wedi mynd ymlaen i ddominyddu\ngwerthiant llyfrau ledled y byd, gan werthu dros filiwn o gopïau a chael ei gyfieithu i 22 iaith.
'Mae gofyn i fi fyw yn y byd hwn, ond y byd yr hoffwn i fyw ynddo yw'r byd a greodd Charlie Mackesy.' Elizabeth Gilbert
'Cariad, cyfeillgarwch a charedigrwydd – mae'r llyfr hwn yn siarad iaith yr oesoedd.' Bear Grylls
'Campwaith celf rhyfeddol a ffenest ryfeddol ar galon y ddynolryw.' Richard Curtis

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | The Boy, the Mole, the Fox, the Horse |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Cyhoeddwr | Graffeg |
Nifer y tudalennau | 128 |
ISBN (Argraffiad) | 9781914079597 |
Statws | Cyhoeddwyd - 23 Medi 2021 |
Allweddeiriau
- Llenyddiaeth Gymraeg
- Llenyddiaeth Saesneg