Y Gors: Archwilio’r ffin rhwng awduraeth a chyfranogiad yn y ffilm ddogfen

Dafydd Sills-Jones, Anne Marie Carty

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Crynodeb

Mewn ateb i alwad gan yr Arts and Humanities Research Council, a chyda chymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwnaethpwyd ffilm ddogfen farddonol/arbrofol fer yn 2016 gan Anne Marie Carty, Nick Jones a Dafydd Sills-Jones ar destun Cors Fochno, ger Y Borth. Mae Cors Fochno yn un o brif gorsydd mawn gorllewin Ewrop, ac yn gartref pwysig i fyd natur unigryw, ynghyd ag i astudiaethau gwyddonol pwysig, gan gynnwys astudiaethau hinsawdd. Mae’r gors felly’n drosiad ffilmig defnyddiol er mwyn trafod man cyfarfod nifer o bynciau a phersbectifau, gan gynnwys teimladau’r gymuned leol tuag at wylltir, cynaliadwraeth ffermio lleol, ac yn fwy eang hanes a dyfodol y berthynas rhwng dyn a’i amgylchedd. Mae’r erthygl hon yn olrhain y dynesiadau a’r cysyniadau y tu ôl i’r ffilm, gan roi’r ffilm yn nhraddodiad ymchwil-fel-ymarfer.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadThe Bog: Examining the boundary between authorialism and contribution in documentary ffilm
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)6-19
Nifer y tudalennau14
CyfnodolynGwerddon
Rhif cyhoeddi27
StatwsCyhoeddwyd - 31 Hyd 2018

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Y Gors: Archwilio’r ffin rhwng awduraeth a chyfranogiad yn y ffilm ddogfen'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn