Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Crynodeb

Mae polisïau a gyflwynwyd i adfywio rhagolygon ieithoedd lleiafrifol wedi bod yn ffynhonnell cryn anesmwythyd yn aml. Weithiau, mae gwrthwynebiadau i’r polisïau hyn yn cael eu mynegi mewn termau moesol, gan gyhuddo rhai mesurau o dorri egwyddorion normadol megis rhyddid unigol a chyfle cyfartal. O ystyried eu natur, mae’r gwrthwynebiadau moesol hyn yn cynnig cwestiynau diddorol i ryddfrydwyr. Felly, sut y dylai rhyddfrydwyr ymateb? Bydd yr erthygl hon yn archwilio’r cwestiwn hwn drwy ganolbwyntio ar un agwedd ddadleuol ar bolisi iaith yng Nghymru: y camau a gymerwyd i osod gofynion o ran yr iaith Gymraeg ar gyfer rhai swyddi yn y sector cyhoeddus. Dyma arfer sydd wedi creu cryn ddadlau, gyda gwrthwynebwyr yn honni ei fod yn tanseilio’r ymrwymiad rhyddfrydol i gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth ac, yn benodol, yn torri egwyddor penodi ar sail teilyngdod. A yw dadleuon o’r fath yn gwrthsefyll craffu? A yw gofynion ieithoedd lleiafrifol ym maes cyflogaeth yn mynd y tu hwnt i’r hyn y byddai rhyddfrydwyr yn ei ystyried yn dderbyniol, neu a ellir datblygu amddiffyniad cydlynol sydd â’i wreiddiau yn glir o fewn fframwaith rhyddfrydol?
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadWelsh as a job requirement: An acceptable step from a liberal perspective?
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)55-73
Nifer y tudalennau18
CyfnodolynGwerddon
Cyfrol6
StatwsCyhoeddwyd - 31 Gorff 2010

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn