Crynodeb
Erthygl wedi ei haddasu o bapur a gyflwynwyd yn Fforwm Beirdd yr Uchelwyr 2015, ‘Brycheiniog a’r Beirdd yn yr Oesoedd Canol’, a gynhaliwyd yn Aberhonddu ar 16 Mai 2015. Roedd y gwaith hwnnw, yn ei dro, yn seiliedig ar waith a wnaed ar gyfer prosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru. Mae’r erthygl (ac ynddi’n agos at fil o eiriau) yn trafod cerdd gan Huw Cae Llwyd lle molir cyfanswm trawiadol o 42 o seintiau Brycheiniog, a hynny er mwyn codi arian ar gyfer ei bererindod i Rufain yn 1475. Dadleuir bod y gerdd anhygoel honno wedi ei chreu er mwyn syfrdanu’r gynulleidfa fel y gallai ddod o hyd i nawdd ar gyfer y fenter, yn debyg iawn i brosiectau ‘crowdfunding’ diweddar ar wefan Kickstarter.
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Rhif yr erthygl | 3 |
Tudalennau (o-i) | 51-70 |
Nifer y tudalennau | 19 |
Cyfnodolyn | Brycheiniog |
Cyfrol | XLVII |
Statws | Cyhoeddwyd - 01 Maw 2016 |
Digwyddiad | Brycheiniog a’r Beirdd yn yr Oesoedd Canol - Eglwys Gadeiriol Sant Ioan + Coleg Crist, Aberhonddu, Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon Hyd: 16 Mai 2015 → … http://www.cymru.ac.uk/Resources/Documents/Centre/2015/Celtic-News-2015.pdf |
Allweddeiriau
- barddoniaeth
- Oesoedd Canol
- Huw Cae Llwyd
- seintiau
Proffiliau
-
Eurig Salisbury
- Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd - Lecturer in Creative Writing
Unigolyn: Dysgu ac Ymchwil