Crynodeb
Gan ddefnyddio statws cyfredol yr iaith Gymraeg mewn addysg ôl-16 a gweinyddu cyfiawnder fel modelau, amcan yr erthygl hon yw esbonio cylchred o ddiffyg defnydd ieithyddol, sydd yn bodoli er gwaethaf darpariaeth ffurfiol ar gyfer gwasanaethau ac adnoddau drwy gyfrwng iaith leiafrifol. Wedi hynny, eglurir ymhle y gellir canfod gwendidau o fewn y rhediad hwn. Yna cloriannir sut gellir defnyddio deddfwriaeth a pholisïau cyfredol mewn modd mwy effeithlon er mwyn newid ymddygiad ieithyddol
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Tudalennau (o-i) | 7-27 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Cyfrol | 8 |
Statws | Cyhoeddwyd - Gorff 2011 |