Astudiaeth feintiol ar rai o agweddau technegol Cerdd Dafod yw hon. Yn seiliedig ar erthygl gan Gwynfor ab Ifor yn Barddas, mae’r bennod gyntaf yn cymharu arddull gynganeddol awdlau arobryn tri chyfnod gwahanol yn yr ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain ac yn dangos y gellir rhannu’r awdlau yn ddau ddosbarth penodol. Gan fynd â’r syniad o wahaniaethau mewn arddull gynganeddol ymhellach, mae’r ail bennod yn cymharu sampl o gywyddau gan bedwar cywyddwr cyfoes ac yn llunio ‘peiriant’ i geisio dyfalu awduraeth cywydd gan un o’r pedwar bardd ar sail arddull gynganeddol yn unig. Lluniais ‘Holiadur y Cynganeddwyr’ i’w lenwi gan ymarferwyr y grefft, a chanlyniadau’r holiadur yw’r sail ar gyfer penodau tri a phedwar. Mae’r gyntaf o’r ddwy bennod yn disgrifio’r broses o lunio’r holiadur ac yn dadansoddi’r cwestiynau cefndirol ac mae’r bennod olaf yn dadansoddi’r ymatebion i brif gorff yr holiadur, sy’n holi barn cynganeddwyr am amryw bynciau technegol a fu’n destun trafod dros y blynyddoedd diweddar, ac yn cymharu’r canlyniadau gyda chanllawiau rhai o’r llawlyfrau mwyaf poblogaidd ar gynghanedd.
Dyddiad Dyfarnu | 2009 |
---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|
Sefydliad Dyfarnu | |
---|
Goruchwyliwr | Huw Edwards (Goruchwylydd) |
---|
Anoraciaeth yr Acen: Agweddau ar Gerdd Dafod Gyfoes
Rhys, G. I. (Awdur). 2009
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Meistr › Meistr mewn Athroniaeth