Mae’r traethawd yn trafod newyddion lleol Ceredigion, ac yn arbennig ddeunydd tra lleol er mwyn gweld sut y medrir eu cynnwys ar safleoedd a meicrosafleoedd amlblatfform dan adain cwmni newyddion proffesiynol sef Golwg360, adain ar-lein cwmni Golwg Cyf. Holir sut y gallai hynny gyfoethogi bywyd ac economi cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru, a chynnal y Gymraeg fel cyfrwng byw a chyfoes mewn oes o gyfathrebu digidol. Gosodir hyn yng nghyd-destun ehangach newyddion lleol a newyddiaduraeth yn gyffredinol ynghyd â datblygiad ystod o ddyfeisiau technolegol. Tynnir ar gyfnod o brofiad newyddiadurol gyda Golwg360 yn Llanbedr Pont Steffan ac ar waith ymarferol mewn gweithdai a fu’n braenaru’r tir ar gyfer sefydlu gwefan Clonc360. Bu hyn, ynghyd ag ymchwil yn y gymuned ‒ gyda busnesau, Clybiau Ffermwyr Ifainc, papurau bro, disgyblion ysgol, a grwpiau ac unigolion eraill ‒ yn sail i asesu effaith y chwyldro digidol yn yr ardal, ac i archwilio’r potensial i godi ymwybyddiaeth am werth y cyfryngau newydd, a’r budd masnachol a diwylliannol a allai ddeillio ohonynt.
Dyddiad Dyfarnu | 25 Ion 2016 |
---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|
Sefydliad Dyfarnu | |
---|
Noddwyr | Knowledge Economy Skills Scholarships |
---|
Goruchwyliwr | Marged Haycock (Goruchwylydd) & Bleddyn Huws (Goruchwylydd) |
---|
Archwilio potensial cryfhau’r iaith Gymraeg ac economi’r ardal gydgyfeiriant drwy hybu cydymwneud rhwng cymunedau lleol a’r cyfryngau newyddion proffesiynol: Achos Ceredigion a Golwg360
Jones, O. R. (Awdur). 25 Ion 2016
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Doethurol › Doethur yn y Athroniaeth