Astudiaeth o eiriau Cymraeg a chanddynt fwy nag un ffurf luosog mewn testunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol Cynnar

  • Silva Mikaela Nurmio

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil MeistrMeistr mewn Athroniaeth

Crynodeb

Ceir tair rhan yn y traethawd hwn. Casglwyd pob ffurf luosog a geir yn y ffynonellau canlynol, ac fe’u rhestrir mewn tabl o 2012 o ffurfiau lluosog yn Atodiad I: glosau Hen Gymraeg a geir yn llawysgrifau’r nawfed ganrif; Llyfr Llandaf; Llyfr Du Caerfyrddin; Llyfr Aneirin; a barddoniaeth Beirdd y Tywysogion. Seilir yr astudiaeth, felly, ar destunau mewn sampl o lawysgrifau a ddyddir cyn tua 1300. Yn Rhan 1 dadansoddir enwau ac ansoddeiriau a chanddynt fwy nag un ffurf luosog yn y sampl. Sefydlir y lluosog gwreiddiol drwy gymharu ffurfiau cytras yn yr ieithoedd Celtaidd eraill, ac awgrymir geirdarddiad o’r Gelteg neu o’r Indo-Ewropeg sy’n dangos bôn y gair. Weithiau ni cheir olion clir o’r lluosog gwreiddiol yn y testunau sydd gennym, fel yn achos enwau diryw bôn-o ac enwau bôn-ā y byddai eu lluosog yn unffurf â’r unigol yn hanesyddol. Yn yr ail ran o’r traethawd trafodir pob ffurfiad lluosog sy’n ymddangos yn Rhan 1, gan gynnwys terfyniadau lluosog, affeithiad-i, enwau torfol, pluralia tantum, ac enwau a all weithiau fod yn unigol ac weithiau’n lluosog. Rhestrir pob ffurf luosog berthnasol o Ran 1, a gwahaniaethir rhwng y rhai sy’n dilyn y ffurfiadau’n hanesyddol a’r rhai a gafwyd drwy gydweddiad. Yn y modd hwn, gwelir pa derfyniadau a ledai yn aml, a pha rhai a dueddai i gael eu disodli. Yr wyf yn cynnwys geiriau benthyg yn y drafodaeth hon, a dadleuaf eu bod yn datblygu yn yr un modd ag y gwnâi’r geiriau brodorol, hynny yw, gallent ddilyn tarddiad y gair Lladin, neu gallent fabwysiadu ffurfiau lluosog newydd drwy gydweddiad.
Dyddiad Dyfarnu2010
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth
NoddwyrArts and Humanities Research Council
GoruchwyliwrRhisiart Hincks (Goruchwylydd) & Patrick Sims-Williams (Goruchwylydd)

Dyfynnu hyn

'