Crynodeb
Yn y traethawd hwn fe ymdrinnir â Salmau Cân Edmwnd Prys a’u cefndir. Yn y bennod gyntaf fe drafodir y Salmau yn eu cyd-destun hanesyddol. Eir ati yn yr ail bennod i roi sylw i’r ymdrechion a fu i fydryddu’r Salmau ar Gyfandir Ewrop ac yn Lloegr a’r Alban. Trafodir syniadau Martin Luther, Urlich Zwingli, Martin Bucer a John Calfin. Bwrir trem hefyd ar waith Thomas Sternhold a John Hopkins a thrafodir yr ymateb a fu i’w gwaith yn Lloegr ac yn yr Alban.Yn y drydedd bennod fe ymdrinnir â’r ymdrechion a fu i fydryddu’r Salmau yng Nghymru cyn cyfnod Edmwnd Prys, gan drafod gwaith Gruffydd Robert o Filan, Siôn Tudur, David Johns, Siôn Phylip o Ardudwy, Wiliam Midleton, James Rhys Parry, George Parry ac Edward Kyffin. Dadleuir na ddiwallwyd yr angen am Salmau Cân yn Gymraeg gan yr un ohonynt.
Eir ati yn y bedwaredd bennod i drafod y cefndir i waith Edmnd Prys. Ymdrinnir yn fras â manylion bywgraffyddol yr awdur ei hun, a thrafodir ei gyfnod fel myfyriwr yng Ngholeg Ieuan Sant, Caer-grawnt a’r helbulon a fu yno yn y cyfnod hwnnw. Trafodir ei yrfa eglwysig gan ddangos bod traddodiad ffyniannus o ganu Salmau ym mhlwyf Llwydlo lle bu am gyfnod yn rheithor. Bwrir trem ar y sefyllfa mewn plwyfi eraill ar y gororau ac yng Nghymru, gan ddangos bod traddodiad o ganu Salmau wedi bod mewn rhai mannau, megis yn yr Eglwysi Cadeiriol ac mewn plwyfi poblog cyn cyhoeddi Salmau Prys yn 1621. Trafodir yr ymdrechion a fu i sicrhau litwrgi cyfrwng Cymraeg drwy gyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin, ond dadleuir bod bwlch yn arfogaeth yr Eglwys heb Salmau Cymraeg y gellid eu canu. Trafodir galluoedd Edmwnd Prys fel bardd gan ddadlau mai ef oedd yr ymgeisydd delfrydol i fydryddu’r Salmau.
Yn y ddwy bennod olaf, fe eir ati i bwyso a mesur camp Prys yn ôl y meini prawf a osododd iddo’i hun yn ei ragymadrodd, sef cynhyrchu Salmau a oedd yn glynu’n rhesymol agos i’r Ysgrythurau, yn ogystal â bod yn gofiadwy ac yn ganadwy. Dadleuir iddo ddibynnu’n helaeth ar gyfieithiad William Morgan o’r Beibl (1588) wrth fydryddu ei Salmau, ond iddo gadw ei lygaid hefyd ar weithiau eraill, megis cyfieithiad William Salesbury o’r Salmau (1567); rhai o gyfieithiadau Saesneg mwyaf poblogaidd y dydd; ynghyd â rhai o’r cyfieithiadau clasurol hefyd: yr Hebraeg, y Lladin a’r Roeg efallai. Ymdrinnir hefyd â’i fesurau gan ddadlau iddo eu dewis yn ofalus er mwyn i’w Salmau fod mor ddealladwy ac mor ganadwy â phosibl. Cynhwysir copi o Salmau Cân Edmwnd Prys gyda’r traethawd hwn gan nad oes copi hylaw ohonynt ar gael bellach.
Dyddiad Dyfarnu | 06 Maw 2012 |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Sefydliad Dyfarnu |
|
Noddwyr | Arts and Humanities Research Council |
Goruchwyliwr | Bleddyn Owen Huws (Goruchwylydd) & Huw Edwards (Goruchwylydd) |