Astudiaeth o’r Cysyniad o Theatr Ôl-Ddramataidd yng Nghyd-Destun Gwaith Cwmni Brith Gof a’i Ddilynwyr ac Aled Jones Williams

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil DoethurolDoethur yn y Athroniaeth

Crynodeb

Mae’r traethawd hwn yn astudio’r cysyniad o theatr ôl-ddramataidd [Hans-Thies Lehmann [1999] cyf. 2006] yng nghyd-destun gwaith cwmni theatr Brith Gof a’i ddilynwyr, ac yng ngwaith y dramodydd Aled Jones Williams. Gan gynnal astudiaeth o weithau theatr Cymraeg, cwestiynnir addasrwydd defnydio term o’r fath o fewn cyddestun hanesyddol lle mae’r traddodiad dramataidd yn fyr ac yn ysbeidiol.
Mae’r bennod gyntaf yn sefydlu’r ddadl mai cyfres o brosiectau modernaidd yw hanes y theatr Gymraeg, a bod hynny’n wastadol wedi’i gynnal o safbwynt ymylol. Cyddestunolir hynny trwy astudiaeth o’r cyfrwng ôl-fodernaidd, a’r symudiad tuag at yr ôlddramataidd. Rhoddir crynodeb o rai o brif elfennau’r ôl-ddramataidd ar derfyn y bennod.
Mae’r ail bennod yn ymestyn y ddadl mewn perthynas uniongyrchol â hanes y theatr yng Nghymru, gan ystyried natur ailadroddol y ‘prosiectau’ theatr Cymraeg. Rhoddir ystyriaeth hefyd i nifer o rag-amodau eraill sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad y theatr ar hyd ei hanes.
Yn y drydedd bennod ceir astudiaeth o waith cwmni theatr Brith Gof. Gan ystyried gweithiau cynnar y cwmni fel rhai oedd yn perthyn i draddodiad y Trydydd Theatr, ymhelaethir ar ddatblygiad esthetig y gellir ei ddehongli fel un ôl-ddramataidd, a sut y parheir gyda hynny yng ngweithiau’u dilynwyr, yn enwedig yng ngwaith Eddie Ladd a Marc Rees.
Mae pennod pedwar yn ystyried gweithiau theatr y dramodydd Aled Jones Williams fel rhai sy’n amlygu rhinweddau theatr ôl-ddramataidd. Rhoddir trosolwg o’i weithiau er mwyn dynodi newidiadau arddulliadol trwy’i yrfa dramayddol, ac yna fe ddehonglir y gweithiau yn ôl pump ‘Elfen’ yr ôl-ddramataidd: testun, gofod, amser, corff, a chyfryngau.
Dyddiad Dyfarnu18 Medi 2012
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth
GoruchwyliwrRoger Owen (Goruchwylydd) & Michael Pearson (Goruchwylydd)

Dyfynnu hyn

'