‘Awn i ailadfer bro....?
: Hanes ac arwyddocâd Mudiad a Chwmni Adfer

  • Manon Elin James

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil DoethurolDoethur mewn Athroniaeth

Crynodeb

Yn y traethawd hwn, archwilir hanes a syniadaeth Cwmni a Mudiad Adfer a fu’n ymgyrchu ac yn gweithredu dros y Gymraeg yn ei chadarnleoedd yng ngorllewin Cymru yn ystod yr 1970au a’r 1980au. Y prif gwestiwn a ofynnir yn y traethawd yw hwn: beth yw hanes ac arwyddocâd Mudiad a Chwmni Adfer? Er mwyn medru ateb y cwestiwn penodol hwn, trafodir a dadansoddir ystod o agweddau gan gynnwys: y ffactorau allweddol a arweiniodd at ei sefydlu, ei berthynas â Chymdeithas yr Iaith, ei syniadaeth athronyddol a’r dylanwadau a gyfrannodd at ei siapio, ei ymgyrchoedd a’i weithgareddau, yr ymateb a fu iddo – gan roi sylw penodol i’r cyhuddiad fod ei syniadaeth yn Ffasgaidd – ynghyd â’r gwaddol a welir hyd heddiw. Manteisiwyd hefyd ar barodrwydd nifer o gyn-aelodau Adfer i gael eu holi ynghylch eu hymwneud â’r cwmni a’r mudiad, a thynnir yn helaeth ar gyfres o gyfweliadau personol gwerthfawr. Mae’r problemau yr oedd Adfer yn ymateb iddynt, megis tai haf, prinder tai fforddiadwy a sefyllfa’r Gymraeg yn y Gorllewin, yn dal yn bynciau a drafodir hyd heddiw. A hithau bellach dros hanner canrif ers sefydlu Adfer, mae’r astudiaeth hon yn fwy amserol a pherthnasol nag erioed.
Dyddiad Dyfarnu2022
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth
GoruchwyliwrHuw Lewis (Goruchwylydd), Bleddyn Huws (Goruchwylydd) & Rhianedd Jewell (Goruchwylydd)

Allweddeiriau

  • Adfer
  • y Fro Gymraeg
  • adferiaith
  • ymgyrchu
  • Cymraeg
  • Mudiad Adfer
  • Cwmni Adfer

Dyfynnu hyn

'