Bwriad yr astudiaeth hon yw taenu goleuni newydd ar farddoniaeth Christine James, ffigur cyhoeddus nad yw ei gwaith wedi derbyn rhyw lawer o sylw beirniadol cyn hyn, er ei bod fel unigolyn wedi ei serio ar yr ymwybod cenedlaethol drwy ei swyddogaeth fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd. Dadleuir bod gwaith y bardd yn dangos crefft a dawn arbennig, a cheisir codi ymwybyddiaeth o dreiddgarwch y cerddi gan ganolbwyntio ar dair thema benodol: ffeminyddiaeth, ecffrasis ac aralledd. Ystyria’r bennod gyntaf gyd-destun hanesyddol beirdd benywaidd yng Nghymru, gan edrych ar y datblygiadau a fu mewn barddoniaeth gan ferched yn ystod yr ugeinfed ganrif a lle Christine James yn y canon hwn. Eir ymlaen yn ail ran y bennod i gynnig dadansoddiad ffeminyddol o’i cherddi, gan fanylu ar y defnydd o écriture feminine a ddefnyddir ganddi, yn ogystal â phenderfynu a oes llinyn cyswllt rhwng y merched sy’n cael sylw yn y gwaith. Yn yr ail bennod, trafodir ei barddoniaeth ecffrastig. Ystyrir i ddechrau y canu ecffrastig a gafwyd eisoes yn Gymraeg, cyn mynd ati i drafod lle Christine James yn y traddodiad hwn, a sut y mae ei hymdriniaeth yn wahanol i eiddo’i rhagflaenwyr. Yn y drydedd bennod, ystyrir yr ystrydeb o fardd Cymraeg traddodiadol, ac edrychir ar le Christine James yn yr olyniaeth mewn perthynas â hyn. Erbyn diwedd y bennod, dadansoddir y gwahanol weddau ar aralledd a geir yn ei gwaith
Dyddiad Dyfarnu | 2016 |
---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|
Sefydliad Dyfarnu | |
---|
Noddwyr | James Pantyfedwen Foundation |
---|
Goruchwyliwr | T Robin Chapman (Goruchwylydd) |
---|
Craffu rhwng y llinellau: ffeminyddiaeth, ecffrasis ac aralledd ym marddoniaeth Christine James
Rhys, S. F. (Awdur). 2016
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Meistr › Meistr mewn Athroniaeth