Crynodeb
Yn y traethawd hwn ymdrinnir â dau o brif weithiau Robert Holland (c. 1556/7-1622), sef ei Ymddiddan Tudur a Gronw a gyhoeddwyd yn Rhydychen yn 1600 a'i gyfieithiad Cymraeg o Basilikon Doron y brenin Iago a gyhoeddwyd yn 1604.Yn y bennod gyntaf trafodir y manylion bywgraffyddol sy'n hysbys am Robert Holland ac ymdrinnir â'i gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caer-grawnt gan nodi nifer o unigolion a allai fod wedi dylanwadu ar yr efrydydd ifanc. Yna, trafodir ei safbwynt diwinyddol a cheisir olrhain ei yrfa fel offeiriad yn Eglwys Loegr. Ceisir crynhoi ei gysylltiadau diddorol yn sir Benfro a thu hwnt a chroniclir ei yrfa lenyddol hefyd.
Yn yr ail bennod rhoddir sylw i'w draethawd yn erbyn dewiniaeth—sef Ymddiddan Tudur a Gronw—sydd ar ffurf ymddiddan rhwng dau gymeriad. Ymdrinnir â'r testun ei hun a cheisir crynhoi manylion ei argraffu. Ar sail tystiolaeth a ganfuwyd yn y Y Ffydd Ddiffuant gan Charles Edwards, dadleuir i'r testun gael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn 1600. Creffir ar ddiddordeb mynych y cyfnod hwn mewn dewindabaeth a cheisir crynhoi ymateb y Cymry i'r mania hwn. Yna, ymdrinnir â chynnwys y testun. Mae’r atodiad sydd ynghlwm wrth y traethawd hwn yn gymhariaeth o'r fersiwn llawysgrif (sydd i’w gael yn Llsgr. Cwrtmawr 114B) a'r fersiwn printiedig a olygwyd gan Stephen Hughes yn 1681.
Yn y drydedd bennod ymdrinnir â chefndir y testun gwreiddiol a rhoddir sylw i amgylchiadau ei gyhoeddi a'i argraffu. Trafodir cynnwys y testun yn fanwl a chreffir ar amgylchiadau cyhoeddi'r fersiwn Cymraeg. Cynigir nifer o resymau dros ei gyfieithu ac ymdrinnir yn fras ag ansawdd y cyfieithiad
Dyddiad Dyfarnu | 2008 |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Sefydliad Dyfarnu |
|
Goruchwyliwr | Gruffydd Williams (Goruchwylydd) |