Bwriad yr astudiaeth hon yw bwrw cipolwg at ddatblygiad y genre ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, gan ganolbwyntio ar un motif penodol, sef y dyfodol. Wrth olrhain hanes llenyddiaeth ddyfodolaidd yn y Gymraeg o 1918 hyd at 2009, cymherir cynnwys enghreifftiau o ffuglen wyddonol gyda chyd-destun hanesyddol a chyndeithasol eu cyfnod. Gobeithir mai rhagymadrodd yn unig yw hwn a fydd yn cyflwyno’r posibilrwydd o waith ymchwil beirniadol pellach yn maes y genre.
Ffuglen Ddyfodolaidd yn y Gymraeg 1918-2009 (1960 – 2135)
Jones, M. (Awdur). 2015
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Meistr › Meistr mewn Athroniaeth