Yn y traethawd hwn, edrychir ar y modd y cynrychiolir gwahanol leiafrifoedd mewn llenyddiaeth Gymraeg, yn bennaf rhwng troad yr ugeinfed ganrif a’r ganrif bresennol. Astudir pedwar lleiafrif yn benodol gydag un lleiafrif yn cynrychioli bob pennod. Y grwpiau lleiafrifol y rhoddir sylw neilltuol iddynt yw unigolion sydd ag anabledd, unigolion cyfunrhywiol, lleiafrifoedd ethnig ac unigolion sy’n dioddef o afiechyd meddwl, yn eu tro. Cynllunnir pob pennod ar sail testun creiddiol a ddefnyddir yn ffocws i drafodaeth fwy cyffredinol ar y modd y mae llenyddiaeth leiafrifol fel llenyddiaeth Gymraeg, a hydreiddir gan y cysyniad o’i statws ymylol ei hun, yn cynrychioli lleiafrifoedd eraill.
Dyddiad Dyfarnu | 2017 |
---|
Iaith wreiddiol | Saesneg |
---|
Sefydliad Dyfarnu | |
---|
Goruchwyliwr | T Robin Chapman (Goruchwylydd) & Eurig Salisbury (Goruchwylydd) |
---|
Gwehilion o Boblach:: Cynrychioli Lleiafrifoedd mewn Llenyddiaeth Gymraeg
Gwenllian, F. (Awdur). 2017
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Meistr › Meistr yn y Athroniaeth