I ba raddau y mae gwead 'psyche' hunaniaethol y Cymry yn brawf o'u 'coloneiddiad'?

  • John Glyn

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil MeistrMeistr yn y Economeg ac Astudiaethau Cymdeithasol

Crynodeb

Dosrennir y dilyniant dadleuon yn yr ymdriniaeth hon, yn dair pennod, gyda'r cynnwys fel a ganlyn-
1. Amlinelliad o'r dealltwriaethau traddodiadol o ystyr 'trefedigaethu'. Y modd y syrthia Cymru yn fyr o'r nodau cydnabyddedig; ond, ei bod yn bosibl ei hystyried yn cyfarfod y gofynion diffiniadol mewn cyfnod cynharach. Archwiliad o'r modd y gall rhai elfennau o'r profiad cynharach hwn, ynghyd ag ymestyniad elfennau eraill tu draw i 1536, fod yn gyfrifol am barhad y profiad coloneiddiol ehangach yn y cyd destun Cymreig.
2. Arolwg dethol o rhai ffenomenau yn y 'psyche' a gydnabyddir yn brofion coloneiddiad, ynghyd a thystiolaeth o'u hamlygiad mewn llenyddiaeth a sylwebaeth cyffredinol.
3. Crynhoad o'r dadleuon o blaid ein thesis. Gwyntylliad o'r gwrthddadleuon cyfredol yn erbyn cymhwyso'r ddamcaniaeth olgoloneiddiol yng nghyswllt Cymru. Ymatebiad ar ffurf tystiolaeth bellach o realiti rhwygiadol y profiad Cymreig; ond, asesiad hefyd o fuddioldeb ac ymarferoldeb ymdrechion i ganfod tir cyffredin ar lwybrau mwy cyfannol.
Diweddir ein hysgrif gydag ymgais i ddistyllu eto hanfod ein ymholiad gwreiddiol, ynghyd a chynnig ein hatebiad terfynol iddo
Dyddiad Dyfarnu2006
Iaith wreiddiolSaesneg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth
GoruchwyliwrAnwen Elias (Goruchwylydd)

Dyfynnu hyn

'