Crynodeb
Yn rhan gyntaf y gwaith hwn ceir nofel wreiddiol, Meulan, sydd wedi ei hanelu at oedolion ifanc. Yn yr ail ran ceir traethawd adfyfyriol sy’n trafod nodweddion y categori hwn o lenyddiaeth ynghyd ag ymdriniaeth â sut yr euthum ati i lunio fy nofel i.Yn fy arddegau roeddwn wrth fy modd yn darllen nofelau i oedolion ifanc ond yn gresynu bod y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer yr oedran hwn mor brin. Er i mi gael blas ar nofelau fel Tydi Bywyd yn Boen gan Gwenno Hywyn (1987) a Jabas gan Penri Jones (1986) roedd y rhain wedi’u cyhoeddi ddau ddegawd cyn imi gael fy ngeni, ac roedd gwaith Siwan Rosser, Arolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc (2017), wedi cadarnhau bod prinder nofelau Cymraeg ar gyfer y categori hwn o ddarllenwyr.
Dyna felly fan cychwyn Meulan, sef fy ymgais i ysgrifennu’r math o nofel y byddwn i fy hun wedi mwynhau ei darllen yn fy arddegau, ac un a oedd yn ymateb i’r galw gan bobl ifanc am ddeunydd darllen a oedd yn ‘llawn egni, hiwmor a dychymyg ac mewn iaith hygyrch’ (Rosser, Arolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc, t. 19).
I wneud hyn ymchwiliais i waith ysgolheigion a beirniaid llenyddol sydd wedi pwyso a mesur nodweddion nofelau a anelir yn benodol at ddarllenwyr yn y grŵp oedran o dan sylw. Fel rhan o’r ymchwil hon, cynheliais gyfweliad â Bethan Mai Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau. Yna, es ati i ystyried casgliad o nofelau amrywiol a oedd wedi eu cyhoeddi’n benodol ar gyfer y gynulleidfa hon, gan ymdrin â hwy fel astudiaethau achos er mwyn rhoi prawf ar y canfyddiadau a ddeilliodd o’r ymchwil eilaidd.
Mae’r canfyddiadau hyn yn ymwneud â heriau diffinio’r gynulleidfa darged, y themâu a’r nodweddion arddull sy’n gyffredin i’r gweithiau creadigol hyn, nodweddion megis strwythur; llif, cywair a safbwynt y naratif; a natur thematig y nofelau.
Fy ngobaith yw y bydd Meulan, fel nofel, yn ychwanegu at yr arlwy Gymraeg sydd ar gael i oedolion ifanc, ac y bydd y rhan adfyfyriol yn ddefnyddiol i awduron y dyfodol sydd â’u bryd ar fynd ati i ysgrifennu ar gyfer y grŵp oedran hwn.
| Dyddiad Dyfarnu | 2025 |
|---|---|
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Sefydliad Dyfarnu |
|
| Goruchwyliwr | Mererid Hopwood (Goruchwylydd) & Eurig Salisbury (Goruchwylydd) |
Dyfynnu hyn
- Standard