O! tyn y gorchudd
: Clasur Cyfoes?

  • Bethan Mair Williams

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil MeistrMeistr yn y Athroniaeth

Crynodeb

Yn y traethawd hwn, edrychir ar O! tyn y gorchudd, Angharad Price ac ar dderbyniad y nofel ers iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn 2002 gan ddadansoddi pam y caiff ei galw’n ‘glasur cyfoes’. Yn y bennod gyntaf, olrheinir hanes a datblygiad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith er ei sefydlu yn 1939. Edrychir ar sut y gwnaeth Angharad Price ac awduron eraill feithrin eu dawn trwy gystadlu a sut y gwnaeth y gystadleuaeth ddatblygu o ran ei phoblogrwydd a’i gwerth ar hyd y blynyddoedd wrth ymladd yn erbyn seremonïau mawreddog y Gadair a’r Goron. Dadansoddiad o’r nofel ei hun a geir yn yr ail bennod, lle trafodir y themâu a’r arddull a dyfais y traethydd, Rebecca, gan fynd i’r afael hefyd â’r cyfieithiad i’r Saesneg, y CD a’r cyfieithiad Braille. Mae’r bennod olaf yn ddadansoddiad o ymatebion yr holiaduron a ddosbarthwyd gan ddehongli atebion y darllenwyr cyffredin i’r nofel. Trafodir gwendidau a chryfderau’r nofel a’r effaith y mae ei phoblogrwydd wedi’i gael ar deulu Tynybraich. Rhoddir sylw hefyd i nodweddion ieithyddol y nofel a sut y mae’n cymharu â rhai nofelau Cymraeg poblogaidd eraill, gan geisio adnabod y nodweddion hynny sy’n peri iddi gael ei hystyried gan lawer yn glasur ac yn un o nofelau mwyaf poblogaidd ein cenhedlaeth.
Dyddiad Dyfarnu2014
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth
GoruchwyliwrHuw Edwards (Goruchwylydd)

Dyfynnu hyn

'