Pleidiau Cenedlaetholgar Lleiafrifol:
: Astudiaeth Gymharol o sut mae Plaid Cymru a’r SNP wedi addasu oherwydd Datganoli

  • Alîs Angharad Jones

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil MeistrMeistr yn y Economeg ac Astudiaethau Cymdeithasol

Crynodeb

Gyda dyfodiad datganoli yn 1999, crëwyd haen etholedig ranbarthol
newydd ym Mhrydain. Mae datganoli wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau
Prydain, yn enwedig i’r pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol. O ganlyniad i ddatganoli, daeth Plaid Cymru a’r Scottish National Party (SNP) yn brif wrthbleidiau. Yn ogystal â hynny, yn 2007, llwyddodd y ddwy blaid i gael mynediad i lywodraeth ar lefel ranbarthol am y tro cyntaf. Prin iawn yw’r llenyddiaeth sydd wedi archwilio’n fanwl yr addasiadau mewnol a wnaeth Plaid Cymru a’r SNP yn dilyn datganoli. Amcan y traethawd yw cymharu profiadau Plaid Cymru a phrofiadau’r SNP ers dyfodiad datganoli, gan gloriannu’r gwahanol sialensiau y bu’n rhaid i’r ddwy blaid eu hwynebu wrth addasu i’r cyd-destun gwleidyddol a sefydliadol newydd. Y brif ddadl sydd wedi’i datblygu yn y prosiect yw bod Plaid Cymru a’r SNP wedi newid mewn modd nad oedd yn unigryw iddynt hwy. Ysgrifennwyd llawer am y modd y newidiodd pleidiau gwyrddion a phleidiau newydd er mwyn ymateb i dwf mewn cefnogaeth. Mae’r astudiaeth hon yn dadlau bod Plaid Cymru a’r SNP wedi newid mewn ffordd debyg i’r ffordd a amlinellir yn y llenyddiaeth honno. Mae darganfyddiadau a dadansoddiadau’r astudiaeth hon yn darparu ffordd o archwilio sut mae pleidiau cenedlaetholgar yn newid wrth iddynt addasu i gyd-destun sefydliadol, gwleidyddol
ac etholiadol newydd
Dyddiad Dyfarnu2011
Iaith wreiddiolSaesneg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth

Dyfynnu hyn

'