Crynodeb
Bu cynnydd yn y symudiad rhyngwladol o blanhigion yn dilyn globaleiddio, gyda nifer o rywogaethau’n datblygu’n ymledol yn eu cynefinoedd newydd. Mae Rhododendron ponticum yn enghraifft o blanhigyn ymledol yng Nghymru sy’n achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Hyd yma, canolbwyntia’r mwyafrif o astudiaethau ar ei ddylanwad ar rywogaethau neu gymunedau unigol. Nod y thesis hwn oedd ymchwilio i effaith R. ponticum ar lefel yr ecosystem. Ystyrir yn benodol newidiadau i briddoedd, yn nhermau eu priodweddau cemegol, cyfraddau cylchu maetholion a chymunedau microbaidd, gan drafod goblygiadau unrhyw newidiadau ar dwf rhywogaethau cynhenid ac adferiad safleoedd wedi clirio R. ponticum. Gwelwyd bod R. ponticum yn cyflwyno cyfansoddion ffytotocsig i’r pridd, ond nad oedd y rhain yn cronni mewncyfansoddion digonol i atal twf rhywogaethau cynhenid ac adferiad safleoedd. Mae’n debyg fod hyn o ganlyniad i gyfansoddion yn cael eu clymu gan fater organig a gronynnau clai, eu diraddio gan ficrobau neu eu trwytholchi o’r pridd. Fodd bynnag, gwelwyd fod ymlediad R. ponticum yn asideiddio pridd, gan ffafrio adferiad llwyni dros rywogaethau eraill fel glaswellt. Yn ogystal, gwelwyd gall R. ponticum ddylanwadu ar gymunedau llystyfiant yn anuniongyrchol. Cynhyrcha R. ponticum hen ddail sydd â chynnwys ffenolig uchel, gan arwain at ddadelfeniad araf ac arafu dadelfeniad hen ddail rhywogaethau cynhenid pan yn gymysg. Yn y maes, arweinia briodweddau cemegol hen ddail R. ponticum at ffurfio pridd cemegol wahanol, yn ogystal â dadelfeniad mater organig a chyfradd resbiradaeth pridd is o dan R. ponticum. Ni chafodd clirio R. ponticum unrhyw effaith hir dymor resbiradaeth y pridd, a barhaodd yn isel dros y tymor tyfu canlynol o ganlyniad i ansawdd y mater organig. Yn y pen draw, gall y newidiadau hyn i gyfradd mwyneiddiad mater organig mewn pridd wedi’i oresgyn arwain at bridd llai ffrwythlon o dan R. ponticum, gan ddylanwadu ar
gymunedau llystyfiant ac adferiad safleoedd.
Dyddiad Dyfarnu | 2020 |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Sefydliad Dyfarnu |
|
Goruchwyliwr | Dylan Gwynn-Jones (Goruchwylydd) & John Scullion (Goruchwylydd) |