Mae’r astudiaeth hon yn ymdrin yn benodol â’r defnydd o’r Gymraeg yn rhaglenni chwaraeon mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru. Roedd yr Urdd am wybod beth oedd yr effaith y mae’r rhaglenni chwaraeon hyn yn ei chael ar ddefnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg, a hefyd am wybod yn benodol sut y gellid ehangu ar hynny er mwyn denu mwy o blant a phobl ifanc i siarad yr iaith wrth ymwneud â chwaraeon a ffordd o fyw yn fwy actif. Wrth ymateb i hyn, mabwysiadwyd methodoleg dulliau cymysg, gyda’r prif bwyslais ar fethodoleg empiraidd, megis cynnal cyfweliadau â phartneriaid y mudiad; arsylwi ar gystadlaethau a gweithgareddau; darparu holiaduron er mwyn casglu data ar farn ysgolion; a mynychu sesiynau hyfforddi a chraffu ar ddarpariaeth y rhaglenni chwaraeon mewn ysgolion. Drwy gael profiad uniongyrchol o’r dull y mae’r Adran yn darparu gweithgareddau i blant a phobl ifanc roedd modd canfod ac ystyried sut ymateb oedd gan ysgolion i’r ddarpariaeth roedden nhw yn ei derbyn. Ar sail yr arsylwadau hyn y lluniwyd y rhan fwyaf o’r argymhellion a welir ar ddiwedd y thesis hwn. Maent yn darparu cynigiadau ymarferol a gweithredadwy i fudiad yr Urdd ynglŷn â sut y gellir mynd ati i ehangu’r ddarpariaeth a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth honno. Y gobaith yw y bydd mabwysiadu a datblygu’r argymhellon hyn yn caniatáu i’r Urdd yn ei gyfanrwydd, ac nid o reidrwydd yn ei Adran Chwaraeon yn unig, allu ymestyn defnydd ieuenctid Cymru o’r Gymraeg yn y dyfodol.
- Cymraeg
- Chwaraeon
- Urdd Gobaith Cymru
Sut mae ymwneud â rhaglenni chwaraeon mudiad yr Urdd yn annog defnyddio’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc?
Richards, D. L. (Awdur). 2023
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Meistr › Meistr mewn Athroniaeth