Theatr y Cymry ifanc ar drothwy oes y diwylliant digidol

  • Matthew Jones

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil DoethurolDoethur mewn Athroniaeth

Crynodeb

Mae’r thesis hwn yn dogfennu hanes un o’r cwmnïau theatr fwyaf adnabyddus ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, sef Cwmni Theatr Arad Goch, a hynny ar adeg newidiol yn ei gynulleidfa, sydd yn troi at dechnoleg ddigidol fel y cyfrwng trechol ar gyfer cyfathrebu ar nifer o agweddau. Mae’r thesis yn trafod ymateb y diwylliant ifanc yng Nghymru a diwylliant y theatr i’r digidol yn yr oes sydd ohoni, a hynny wrth grynhoi cenhadaeth barhaol Arad Goch sef i ddatgelu drych brofiad ac agor drws y dychymyg ar gyfer ei gynulleidfa. Y prif gwestiwn sydd wrth wraidd y gwaith hwn yw sut y gellir gweithredu cenhadaeth Arad Goch mewn modd sy’n ymateb yn fentrus i’w gynulleidfa ddigidol, ddeallus, gyfoes. Ymchwilir i ddulliau o greu darn o theatr ar gyfer cynulleidfa benodol y cwmni, a hynny gan ystyried gweithgaredd diweddar y cwmni a diffiniadau o du fas i’r cwmni o gynyrchiadau theatr ddigidol, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. Wrth ystyried arsylwadau’r ymchwiliad hwnnw, ac ymchwil mewn i hunaniaeth cynulleidfa Arad Goch, cyflwynir cynhyrchiad theatr newydd o’r enw Outsiders. Cyflwynir trafodaeth gan arwain at y cynhyrchiad hwn, a gan hynny cynnig fframwaith perfformiadol ar gyfer y cwmni, hynny yw, esiamplau o sut gellid llwyfannu cynhyrchiad theatr ddigidol o’r fath i gynulleidfa benodol y cwmni. Mae’r gwaith yn cynnig ystyriaeth o’r cymhlethdodau sydd wrth wraidd y broses o gyflwyno gwaith i gynulleidfa benodol y cwmni, ac i rai tebyg o ran diwylliant, iaith neu oedran y gynulleidfa.
Dyddiad Dyfarnu18 Mai 2015
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth
NoddwyrKnowledge Economy Skills Scholarships
GoruchwyliwrAnwen Jones (Goruchwylydd) & Kate Woodward (Goruchwylydd)

Dyfynnu hyn

'