Y Defnydd o'r Gymraeg yn y Trydydd Sector ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Heledd Llwyd

Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil MeistrMeistr yn y Athroniaeth

Crynodeb

Ceisir yn y gwaith ymchwil hwn ddadansoddi’r defnydd o’r Gymraeg yn y trydydd sector gan ganolbwyntio'n bennaf ar fudiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Casglwyd gwybodaeth trwy gysylltu â staff nifer o elusennau ynghyd â
defnyddwyr y gwasanaethau a gynigir gan yr elusennau hynny er mwyn darganfod ffeithiau cyfredol am y sefyllfa a’u barn am le’r Gymraeg o fewn y sefydliadau. Ystyrir pa fath o ddarpariaeth weledol a faint o ddefnydd llafar a geir cyn gofyn sut dymuna'r elusennau weld datblygu eu darpariaeth. Cynhaliwyd grŵp ffocws â grŵp cefnogaeth un elusen er mwyn medru ymhelaethu ymhellach ar yr ymatebion i'r holiaduron a ddosbarthwyd ac a gasglwyd. Ceir dadansoddiad manwl o Antur Ceisir yn y gwaith ymchwil hwn ddadansoddi’r defnydd o’r Gymraeg yn y trydydd sector gan ganolbwyntio'n bennaf ar fudiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.Casglwyd gwybodaeth trwy gysylltu â staff nifer o elusennau ynghyd â defnyddwyr y gwasanaethau a gynigir gan yr elusennau hynny er mwyn darganfod ffeithiau cyfredol am y sefyllfa a’u barn am le’r Gymraeg o fewn y sefydliadau. Ystyrir pa fath o ddarpariaeth weledol a faint o ddefnydd llafar a geir cyn gofyn sut dymuna'r elusennau weld datblygu eu darpariaeth. Cynhaliwyd grŵp ffocws â grŵp cefnogaeth un elusen er mwyn medru ymhelaethu ymhellach ar yr ymatebion i'r holiaduron a ddosbarthwyd ac a gasglwyd. Ceir dadansoddiad manwl o Antur Waunfawr, sydd â’r Gymraeg yn flaenoriaeth yn ei gweinyddiaeth. Ar ôl canfod patrwm o ddull gweithredu yn yr Antur, sef y brif astudiaeth achos, yr oedd modd cymharu defnydd yr elusennau eraill o’r Gymraeg â'r Antur gan sylwi ar arferion da y gellid eu mabwysiadu gan fudiadau eraill yng Nghymru. Yn y bennod olaf cyflwynir argymhellion cyffredinol ar sut i wella darpariaeth ddwyieithog sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru ar sail y gwaith ymchwil.Waunfawr, sydd â’r Gymraeg yn flaenoriaeth yn ei gweinyddiaeth. Ar ôl canfod patrwm o ddull gweithredu yn yr Antur, sef y brif astudiaethachos, yr oedd modd cymharu defnydd yr elusennau eraill o’r Gymraeg â'r Antur gan sylwi ar arferion da y gellid eu mabwysiadu gan fudiadau eraill yng Nghymru. Yn y bennod olaf cyflwynir argymhellion cyffredinol ar sut i wella darpariaeth ddwyieithog sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru ar sail y gwaith ymchwil.
Dyddiad Dyfarnu2017
Iaith wreiddiolSaesneg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Aberystwyth
GoruchwyliwrRhianedd Jewell (Goruchwylydd) & Bleddyn Huws (Goruchwylydd)

Dyfynnu hyn

'