Edrycha’r traethawd hwn ar yr ymateb a gafwyd gan feirdd rhwng 1991 a 2014 i argyfwng y Gymraeg yng nghymunedau gwledig Cymru. Gyda’r cyfrifiad diweddaraf yn dangos bod y crebachu sylweddol yn parhau ar dirwedd ieithyddol a diwylliannol y cadarnleoedd traddodiadol, gosodir y seiliau drwy fanylu ar y ffeithiau moel, gan ddefnyddio data’r cyfrifiadau a dadansoddiadau daearyddwyr a gwleidyddion i gyflwyno’r cefndir y bu’r beirdd yn canu ynddo. O gasglu ynghyd ystod eang o gerddi o gyfrolau a chylchgronau gan feirdd cenedlaethol a beirdd gwlad, dangosir pa mor onest a goddrychol fu’r ymateb barddol yn wyneb yr argyfwng, gyda sylwedd y farddoniaeth yn profi nad pwnc llosg i’r ysgolheigion yn unig fu’r newidiadau. Mae’r beirdd yn llygaddystion i ddiwedd cyfnod, a gwelwn fod delweddau natur yn hawlio lle amlwg yn y cerddi, gyda’r drydedd bennod yn ymdrin â’r graddau y daw’r ddelweddaeth i gyfleu’r gwae a’r tristwch. Mae llanw a thra i’r môr yn ffordd bwerus o bortreadu’r erydiad tiriogaethol: cryfheir y ddelwedd drwy gyplysiad ingol â thrychineb Tryweryn a chwedl Cantre’r Gwaelod. Â’r ymdriniaeth rhagddi i edrych ar y modd y defnyddir symboliaeth planhigion ac adar yn alegorïol, tra gwelwn bod y tywydd a’r tymhorau‒ storm a niwl, gaeaf a haf ‒ yn gyfrwng dirdynnol i gyfleu gwewyr y dirywiad. Gogwydd gwahanol sydd i’r bedwaredd bennod, sy’n edrych ar y ffordd y bu’r beirdd yn fwy na pharod i bwyntio bys cyhuddgar at nodweddion diffygio l y Cymry eu hunain yn wyneb yr argyfwng. Ymdrin â’r ymateb i’r broses o wrthdrefoli i’r ardaloedd gwledig mae’r bennod olaf, cyn rhoi sylw angenrheidiol i allfudo’r ifanc a’r dynfa gynyddol i Gaerdydd. Ceir yma ddeuoliaeth a phendilio nodedig rhwng anobai th a gobaith, gyda’r cerddi’n esgor ar wahaniae thau barn amlwg ynghylch dyfodo l y cymunedau Cymraeg.
Dyddiad Dyfarnu | 2015 |
---|
Iaith wreiddiol | Saesneg |
---|
Sefydliad Dyfarnu | |
---|
Noddwyr | James Pantyfedwen Foundation |
---|
Goruchwyliwr | T Robin Chapman (Goruchwylydd) & Bleddyn Huws (Goruchwylydd) |
---|
Ymateb y beirdd i argyfwng y Gymraeg yng nghymunedau gwledig Cymru rhwng 1991 a 2014
Owen, F. E. (Awdur). 2015
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Meistr › Meistr yn y Athroniaeth