Mae’r traethawd hwn yn ceisio darganfod pa mor bwysig yw darllen fel rhan o arferion hamdden pobl ifanc rhwng 15 a 25 oed, o gymharu â gweithgareddau hamdden eraill. Ceisir canfod i ba raddau y mae’r chwyldro digidol wedi newid arferion darllen pobl ifanc yn yr ystod oedran hwn. Pwysigrwydd hynny yw mesur hyd y gellir pa effaith y mae hynny’n debyg o’i chael ar y math o lyfrau a gyhoeddir yn y Gymraeg, pa fath o gyfryngau newyddion y dylid canolbwyntio arnynt yn y dyfodol, a chanfod y cydbwysedd cywir rhwng cyfryngau print a digidol. Ystyrir y math o ddeunydd a ddarllenir, yn ddeunydd print ac electronig, ac ystyrir hefyd faint o ddeunydd Cymraeg a faint o ddeunydd Saesneg a ddarllenir mewn amrywiol gyfryngau. Bydd yr ymchwil hefyd yn cynnwys darganfod patrymau darllen pobl ifanc ar y We drwy holi am y math o safleoedd a ddefnyddir ganddynt yn rheolaidd, megis safleoedd newyddion a rhwydweithiau cymdeithasol a blogiau. Mae’r ymatebwyr wedi cael eu rhannu yn dri grŵp oedran er mwyn gallu cymharu y gwahaniaethau rhyngddynt. Defnyddiwyd holiadur er mwyn cael gwybodaeth gyffredinol am arferion darllen pobl ifanc rhwng 15 a 25 oed yn brintiedig ac yn electronig. Yna cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda’r tri grŵp oedran. Roedd hi’n bosibl cael trafodaeth bellach am y pynciau wyneb yn wyneb. Mae ymatebion i’r holiadur a’r grwpiau ffocws yn cael eu dadansoddi mewn dwy bennod ar wahân. Mae’r prif ganfyddiadau yn defnyddio canlyniadau’r ymchwil i argymell beth y dylai Cyngor Llyfrau Cymru, cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg a llyfrwerthwyr fod yn ei wneud i apelio at Gymry Cymraeg ifainc.
Dyddiad Dyfarnu | 2015 |
---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|
Sefydliad Dyfarnu | |
---|
Noddwyr | Knowledge Economy Skills Scholarships |
---|
Goruchwyliwr | Bleddyn Huws (Goruchwylydd) |
---|
Ymchwil i le darllen ymysg arferion hamdden siaradwyr Cymraeg 15‒25 oed
Thomas, N. (Awdur). 2015
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Meistr › Meistr mewn Athroniaeth